Fel ymgeisydd ym Mhrifysgol Abertawe, efallai gofynnir i chi ddod am gyfweliad byr. Cynhelir yr holl gyfweliadau dros Zoom, gyda darlithydd y cwrs neu aelod o'r tîm derbyn myfyrwyr, a bydd yn cymryd tuag ugain munud.
Pam mae angen i mi gael cyfweliad?
Bob blwyddyn, drwy gydol y cylch cyflwyno cais, rhaid i ni gwblhau cyfweliad byr ar gyfer llawer o'n cyrsiau, gan gynnwys Nyrsio, y Gwyddorau Gofal Iechyd, Fferylliaeth a Gwaith Cymdeithasol.
Rydym yn dewis cyfweld â'n hymgeiswyr i weld a oes gennych y rhinweddau academaidd ar gyfer y cwrs ond hefyd bod gennych ddealltwriaeth o'r proffesiwn yn y dyfodol, ac y gallwch drafod y pwnc yn hyderus.
Peidiwch â chynhyrfu!
Nid ydym am i chi ofidio am eich cyfweliad - mae ein staff academaidd a derbyn myfyrwyr yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt, a byddan nhw wrth law drwy gydol y cyfweliad i'ch cefnogi chi mewn unrhyw ffordd bosib. Rydym wedi creu canllaw 'awgrymiadau euraidd' byr i roi gwybod i chi yr hyn i'w ddisgwyl o'ch cyfweliad, a'r ffordd orau i baratoi ar ei gyfer.
1.Byddwch yn barod
Cyn dyddiad eich cyfweliad, mae'n syniad da gwneud ychydig o waith ymchwil - byddem yn argymell cael atebion i rai o'r cwestiynau canlynol:
- Pam rydych chi am astudio'r cwrs hwn?
- Beth sy'n gwneud ymgeisydd da?
- Beth rydych yn ei wybod am y proffesiwn?
- Beth rydych chi'n ei wybod am faterion cyfoes mewn gofal iechyd?
Efallai na ofynnir y cwestiynau uchod i chi, ond bydd gallu ateb y cwestiynau hyn yn rhoi dechrau da i chi er mwyn teimlo'n hyderus yn eich cyfweliad. Efallai yr hoffech nodi unrhyw gwestiynau sydd gennych ymlaen llaw.
2. Arddangos profiad perthnasol
Nid oes angen i hyn fod yn brofiad gwaith, a gallai fod yn rhywbeth a wneir o ddydd i ddydd e.e. fel rhiant neu ofalwr, drwy wirfoddoli neu brosiectau ysgol etc. Byddwch yn barod i rannu unrhyw brofiad y gallwch ei arddangos sy'n berthnasol i'r cwrs.
3. Dylech ymarfer eich sgiliau cyfathrebu
Mae cyfathrebu'n allweddol mewn cyfweliad - mae ein cyfweliadau'n cynnwys cwestiynau ac atebion, felly gwnewch yn siŵr y gallwch sgwrsio, gwrando'n dda a dangos eich personoliaeth i'r cyfwelwyr.
4. Gwisgwch ddillad priodol
Cynhelir ein cyfweliadau dros Zoom, ond rydym bob amser yn argymell eich bod yn gwisgo'n briodol ar gyfer y cyfweliad. Rydym yn argymell gwisgo fel y byddech yn ei wneud ar gyfer cyfweliad wyneb yn wyneb.
5. Profwch eich technoleg
Rhowch eich troed gorau ymlaen a gwisgwch yn briodol. Hyd yn oed os bydd eich cyfweliad yn digwydd dros Zoom, byddem yn dal i argymell gwisgo fel y byddech ar gyfer cyfweliad personol.
A chofiwch ymlacio a chymryd eich amser. Rydym yn gwybod y gall cyfweliadau fod yn brofiad diflas - cofiwch ofyn i'r cyfwelydd ailadrodd cwestiwn nad ydych wedi'i glywed neu gofynnwch am fwy o wybodaeth os nad ydych yn deall. Y cyfweliad yw ein cyfle i gwrdd â chi a dysgu mwy am eich angerdd am y cwrs!
Rydym yn dymuno pob lwc i chi ar gyfer eich cyfweliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cyfweliad, neu eich cais Clirio, cysylltwch â ni ar studyfmhls@swansea.ac.uk.