Gyrfaoedd GIG

Diwrnodau Agored Israddedig
Cofrestrwch NawrRydym yn arwain y ffordd wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a Gofal Iechyd. Am bron i dri degawd rydym wedi bod ar flaen y gad wrth hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG. P'un a ydych am ddod yn Wyddonydd Gofal Iechyd, â diddordeb mewn dod yn Feddyg, Nyrs neu Fydwraig yn Abertawe, mae dull arloesol ac ymroddiad i wella darpariaeth gofal iechyd yn ein gwneud yn fan delfrydol ar gyfer y cam cyntaf ar eich gyrfa i ddatblygu'r GIG a gofal iechyd ar gyfer ein anghenion i'r dyfodol.
Cofrestrwch nawrDod yn …
Os na fedrwch aros am ein sgyrsiau Arddangosfa Gyrfaoedd Clinigol, mae ein Canllawiau Cyflym wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i archwilio'r cyrsiau y tu ôl i bob gyrfa gydag atebion i gwestiynau cyffredin y mae llawer o ymgeiswyr yn eu gofyn i'ch helpu chi i ddeall mwy am y gyrfaoedd hyn, beth mae'n ei gymryd i gyrraedd yno a pha ddrysau a allai fod ar agor i chi wedi i chi gymhwyso.
Ffordd Amgen i Ddod yn Feddyg
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Feddyg ac astudio Meddygaeth yn Abertawe, gallai ein cyrsiau Llwybrau at Feddygaeth fod yr opsiwn i chi. Bydd ein Llwybrau at Feddygaeth yn rhoi cyfweliad gwarantedig i fyfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion i astudio ein rhaglen Meddygaeth a dod yn Feddyg.
P'un a ydych am fod ag angerdd am wyddor bywyd yr hoffech ei ddilyn, nad oes gennych y cymysgedd cywir o Lefelau A, neu nad ydych wedi llwyddo i gael cyfweliad ar gyfer Meddygaeth israddedig, efallai mai ein Llwybrau at Feddygaeth yw'r cwrs iawn i chi.
Archwiliwch ein Llwybrau at FeddygaethAriannu eich gyrfa yn y GIG
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ariannu os byddwch yn dewis astudio tuag at yrfa o fewn y GIG:
Am Ddarganfod Mwy am Abertawe
Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y GIG? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.