Sioeau, Sgyrsiau a Gweithdai i’w Archebu

Paratowch i gael gwlychiad wrth i chi archwilio popeth sy'n anhygoel ac yn wych am ddŵr. Bydd cyfle i ymchwilio i'r hyn sy'n digwydd pan fydd cyflwr sylweddau yn newid a chael blas cyffrous ar ddyfodol archwilio'r gofod. Profwch gysyniadau mathemategol sy'n syfrdanu a chymerwch ran mewn sioeau sy'n llawn ffrwydradau ac ambell glec.

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad fyddai symud ar y blaned Mawrth? Allech chi ddawnsio o amgylch Sadwrn? Ymunwch â’n gweithdy deinamig sy’n archwilio’r planedau yng nghysawd yr haul a sut maen nhw’n symud. Neu archwiliwch eich breuddwydion i ddarganfod sut mae rhannau o'ch bywyd ar ddihun yn ymddangos wrth i chi gysgu.

Byddwn hefyd cael amser anhygoel gyda’r cadwraethwr a’r cyflwynydd teledu Chris Packham wrth iddo fynd â ni ar daith wyllt i ymyl y byd ac yn ôl.

Ymunwch â ni a rhai gwesteion arbennig ar gyfer ystod eang o sioeau, sgyrsiau a gweithdai rhyngweithiol i fynd â'ch meddyliau ar daith o ddarganfyddiad.

Archwiliwch ein holl ddigwyddiadau ac archebwch eich lle isod.

Dydd Sadwrn 29 Hydref - Dydd Iau 3 Tachwedd

Sesiwn Glanhau'r Traeth Cyfarfod yn Coast Cafe (SA1 1UN)

Glân traeth ac Prosiect Annibendod

14.30-15.30

29 Hydref

Bae Abertawe - Mynedfa Blackpill

Mae'r tîm glanhau traeth ‘2 funud’ o hyd yn ymuno â Phrosiect Annibendod i gyflwyno digwyddiad cyffrous fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe. Ymunwch â thîm glanhau’r traeth ym Mae Abertawe Coast Cafe (SA1 1UN) i gasglu plastigion a fydd wedyn yn cael eu defnyddio i blethu paneli bach fel rhan o’r penwythnos i’r teulu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Sul 6 Tachwedd. Trowch sbwriel rhywun yn drysor!

Nid oes angen archebu

Noson Cwis Gwyddoniaeth Frawychus

Noson Cwis Gwyddoniaeth Frawychus

31 Hydref 

6:30pm  7+ Oed

Ymunwch â ni’r Calan Gaeaf hwn am noson o gwestiynau cwis gwahanol am bethau gwyddonol rhyfeddol ac anhygoel! Rydym wrth ein bodd mai Lizzie Daly, y biolegydd, darlledwr, gwneuthurwr ffilmiau ac archwiliwr, fydd yn cyflwyno’r digwyddiad hwn a bydd yn cael ei guradu gan dim hanes natur yr amgueddfa. Felly, dewch â’ch tîm at ei gilydd yn barod i gystadlu gyda rowndiau fydd yn cynnwys synau anifeiliaid, lluniau ac ambell sbesimen rhyfedd o Amgueddfa.

Archebwch nawr
Cafe Gwyddoniaeth

Ymchwil Canser Cymru Caffi Gwyddoniaeth Abertawe

3 Tachwedd

Lleoliad - Oriel Science 

18+ Oed

7:00pm - 9:00pm 

Ymunwch â ni am noson o ddarganfod yng Nghaffi Gwyddoniaeth Abertawe sy'n cynnig cyfle i chi ddysgu am yr ymchwil canser sy’n digwydd yn Abertawe ac a draws Cymru. Bydd cyflwyniadau am brawf gwaed chwyldroadol allai drawsnewid y ffordd y mae canser y coluddyn yn cael ei ddiagnosio a sut mae modd defnyddio difrod DNA i ganfod canser yn gynharach. 

Archebwch Nawr
Creu syllwr enfys

Creu syllwr enfys

3 Tachwedd

Amryw amseroedd (11:00am / 12:00pm / 1:00pm / 2:30pm / 3:30pm)  Pob Oed

Ydych chi erioed wedi ystyried pam mae pethau o liwiau gwahanol? Wyddech chi fod rhai lliwiau'n anweledig? Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn eich dysgu am olau a sut i greu eich syllwyr enfys eich hun. Fyddwch chi byth yn edrych ar olau yn yr un ffordd eto.

Archebwch nawr

Dydd Sadwrn 5 Tachwedd

Swigod Ysblennydd

Swigod Ysblennydd

Sadwrn 5 Tachwedd 

10:30am  4+ Oed

Elli di wneud i swigen bara am byth? Ydy swigod yn gallu bod yn sgwâr? Wyt ti'n ddigon dewr i wthio sgiwer i mewn i falŵn? Yn un o sioeau mwyaf poblogaidd Science Made Simple, mae Becky Holmes yn archwilio'r agweddau gorau ar swigod a balŵns; o'u chwythu i'w byrstio, byddi di'n dysgu'r holl bethau anhygoel eraill gelli di eu gwneud.

Archebwch nawr
Siyntio drwy'r Dydd

Siyntio drwy'r Dydd

Sadwrn 5 Tachwedd 

10:30am a 2:00pm  8+ Oed

Yn y gweithdy, byddwch yn archwilio ac yn datblygu'r gallu i feddwl mewn modd cyfrifiadol drwy bosau siyntio trenau. Mae siyntio'n ymwneud ag ad-drefnu tryciau'n ofalus mewn iardiau siyntio er mwyn creu trenau yn ôl y drefn ofynnol. Gan fod y trac yn gyfyngedig, mae sawl cam yn rhan o'r broses o drefnu'r tryciau. Allwch chi fynd i'r afael â'n posau datrys problemau a threfnu'r tryciau?

Archebwch nawr
Triciau Gwyddoniaeth

Triciau Gwyddoniaeth

Sadwrn 5 Tachwedd 

11:00am  Pob Oed

Arsylwch, rhagfynegwch a phrofwch, yn y sioe gyffrous hon a arweinir gan y gynulleidfa, sy'n treiddio i fyd rhyfeddol ffiseg bob dydd a chemeg cegin. Yn llawn arbrofion ac arddangosiadau rhyfedd a rhyfeddol i'r teulu cyfan eu mwynhau!

Archebwch nawr
Wyneb Newidiol Technoleg yng Nghymru

Wyneb Newidiol Technoleg yng Nghymru

Sadwrn 5 Tachwedd 

11:00am  18+ Oed

Bydd panel o arbenigwyr dwyieithog yn archwilio’r gweledigaethau o'r dyfodol a geir mewn ffuglen wyddonol Gymreig a llenyddiaeth Gymraeg, gan drafod sut rydym yn rhyngweithio â'r dechnoleg a ddisgrifir ac ystyried sut mae dyfeisiau arloesol megis y ‘gweleffon’ a thractorau trydan yn cydweddu â bywyd modern Cymru.

Archebwch nawr
Mr FFIT

Ogi Ogi Ogi! Ydych chi'n barod i symud?

Dydd Sadwrn 6 Tachwedd
Parth yr LC

11.00 / 13.00   Oed 7 - 11

Bydd Mr Ffit yn eich ysbrydoli a'ch cymell i symud mwy a bydd yn mynd â chi trwy rai ymarferion HIIT byr wrth eich addysgu ar ei 5 ffordd o gadw'n ffit ac yn iach a beth sy'n digwydd i'n cyrff pan fyddwn ni'n gwneud hynny.

Archebwch Nawr
Tref 5G y Dyfodol

Tref 5G y Dyfodol

Sadwrn 5 Tachwedd 

12:00pm a 3:30pm  8-14 Oed

Archwiliwch fyd AR gan gwblhau heriau a datrys problemau wrth ddysgu am y meysydd bywyd y gall 5G helpu i'w gwella! Profwch ddulliau o gyfathrebu gan ddefnyddio golau a sain a sut y gall 5G wella ar y rhwydweithiau symudol blaenorol sydd ar gael i ni.

Archebwch nawr
Sioe Gwyddoniaeth Dŵr Ffrwydrol

Sioe Gwyddoniaeth Dŵr Ffrwydrol

Sadwrn 5 Tachwedd 

12:30pm  7+ Oed

Allwn ni wasgu dŵr? Ei ffrwydro? Beth sy'n digwydd pan fyddi di'n ei ferwi yn y gofod? Bydd yn barod i fod yn wlyb a dysgu'r atebion i'r cwestiynau hyn a mwy yn y sioe gyffrous hon llawn gwyddoniaeth ryngweithiol a fydd yn archwilio popeth sy'n anhygoel ac yn wych am ddŵr.

Archebwch nawr
Mater Ardderchog

Mater Ardderchog

Sadwrn 5 Tachwedd 

1:00pm  7+ Oed

Yncynnwys arbrofion anhygoel ac arddangosiadau arbennig, mae’r sioe hon yn edrych ar beth sy’n digwydd pan fydd cyflwr sylweddau yn newid!

 

Archebwch nawr
image of wagon and horses

Y defnydd o alcohol ymhlith cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Sadwrn 5 Tachwedd 

1:00pm  18+ Oed

Er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd cynyddol yn y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid targedu gweithgarwch hyrwyddo iechyd at grwpiau ethnig a diwylliannol ar yr ymylon sydd â'r mynediad gwaethaf at wasanaethau iechyd a lles. Mae gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr y canlyniadau iechyd gwaethaf o'r holl grwpiau ethnig ar draws sawl dangosydd, ond ychydig iawn a wyddys am eu profiadau o ddefnyddio alcohol a niwed yn sgîl hynny. Trwy straeon digidol, yn seiliedig ar gyfweliadau gan gyfoedion, mae Sipsiwn, Roma, Teithwyr a Chychod yn archwilio sut mae defnyddio alcohol yn gysylltiedig â'u diwylliant, eu hethnigrwydd a'u hunaniaeth nhw.

Archebwch nawr
Chi, Fi a Deallusrwydd Artiffisial

Chi, Fi a Deallusrwydd Artiffisial

Sadwrn 5 Tachwedd 

3:00pm  12+ Oed

Roedd Pandemig Covid-19 yn gyfle annisgwyl i ddeall sut mae ergyd byd-eang dirybudd yn newid chwiliadau ar-lein pobl wrth iddynt chwilio am wybodaeth am sut maent yn teimlo. Yn y sgwrs hon, byddwn yn dangos i chi sut rydym yn defnyddio gwybodaeth ffynhonnell agored i ddatgelu sut mae technoleg ac argyfwng wedi newid sut rydym yn mynegi ein hemosiynau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn chwiliadau ar y rhyngrwyd.

Archebwch nawr
Academi Gofodwyr Brainiac

Academi Gofodwyr Brainiac

Sadwrn 5 Tachwedd 

4:00pm  6+ Oed

Ymunwch â’r Brainiacs, ymgollwch yn y Daith i'r blaned Mawrth a gweld sut ofodwr ydych chi. Byddwch yn barod amdani! Mae tîm Brainiac yn ôl gydag Academi Gofodwyr Brainiac newydd sbon a’r profiad mwyaf anhygoel, arallfydol erioed.

Archebwch nawr
Academi Dditectif Brainiac

Academi Dditectif Brainiac

Sadwrn 5 Tachwedd 

7:00pm  6+ Oed


Ymunwch â’r Brainiacs, ymgollwch yn yr Academi Dditectif a dewch yn Dditectif Brainiac dan Hyfforddiant! Byddwch yn barod amdani! Mae Brainiac Live!, tîm gorau a mwyaf gwyllt y byd gwyddonol wedi cyrraedd gyda chlec! Wedi’u gwefru ar eu newydd wedd, maen nhw’n barod i brofi’ch sgiliau.

Archebwch nawr

Dydd Sul 6 Tachwedd

Siyntio drwy'r Dydd

Siyntio drwy'r Dydd

Sul 6 Tachwedd 

10:30am  8+ Oed

Yn y gweithdy, byddwch yn archwilio ac yn datblygu'r gallu i feddwl mewn modd cyfrifiadol drwy bosau siyntio trenau. Mae siyntio'n ymwneud ag ad-drefnu tryciau'n ofalus mewn iardiau siyntio er mwyn creu trenau yn ôl y drefn ofynnol. Gan fod y trac yn gyfyngedig, mae sawl cam yn rhan o'r broses o drefnu'r tryciau. Allwch chi fynd i'r afael â'n posau datrys problemau a threfnu'r tryciau?

Archebwch nawr
Miri Mathemategol

Miri Mathemategol

Sul 6 Tachwedd 

10:00am  Oed 8+

Ymunwch â Kyle Evans, y cyfathrebwr mathemateg a'r digrifwr cerddorol, wrth iddo archwilio rhai cysyniadau mathemategol syfrdanol.  P'un a ydych chi'n dwlu ar fathemateg neu'n ei chasáu, mae'r sioe hon yn cyfuno chwarae â rhifau ag adloniant i'r teulu mewn modd hygyrch sy'n cynnig rhywbeth at ddant plant a'u rhieni.

Archebwch Nawr
Dinosoriaid a’r Anialwch yng Nghymru

Dinosoriaid a’r Anialwch yng Nghymru

Sul 6 Tachwedd 

11:30am  Pob Oed

Dyma sgwrs sy’n addas i’r teulu cyfan a fydd yn mynd â ni’n ôl i 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl i archwilio’r dystiolaeth sydd gennym ni y bu dinosoriaid yn byw yn ne Cymru yn ystod amodau anialwch poeth y cyfnod Triasig Hwyr a’r amodau newidiol yn mynd i mewn i’r cyfnod Jurasig, 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Archebwch nawr
Tref 5G y Dyfodol

Tref 5G y Dyfodol

Sul 6 Tachwedd 

12:00pm a 3:30pm  8-14 Oed

Archwiliwch fyd AR gan gwblhau heriau a datrys problemau wrth ddysgu am y meysydd bywyd y gall 5G helpu i'w gwella! Profwch ddulliau o gyfathrebu gan ddefnyddio golau a sain a sut y gall 5G wella ar y rhwydweithiau symudol blaenorol sydd ar gael i ni.

Archebwch nawr
Triciau Mathemateg i Ffrwydro’ch Ymennydd

Triciau Mathemateg i Ffrwydro’ch Ymennydd

Sul 6 Tachwedd 

12:00pm  12+ Oed

Awr wyllt o fathemateg heriol, arddangosiadau rhyngweithiol a hiwmor drygionus gan y diddanwr a chyfathrebwr gwyddoniaeth sydd wedi ennill sawl gwobr, Kyle D Evans. Treuliodd Kyle y cyfnod clo’n astudio posau mathemateg feirol, haciau a thriciau bywyd, ac wedi crynhoi ei ganfyddiadau i awr o adloniant crafu pen ond cynhwysol a difyr tu hwnt yn seiliedig ar fathemateg. Gallwch ddisgwyl jôcs, caneuon a llawer o fathemateg syfrdanol!

Archebwch nawr
O’r Lleuad i Fawrth

O’r Lleuad i Fawrth

Sul 6 Tachwedd 

2:00pm  7+ Oed

Ym 1969, Neil Armstrong oedd y person cyntaf i gerdded ar wyneb y Lleuad. Yn y sioe ddifyr hon, byddwn yn edrych ar rai o’r teithiau a darganfyddiadau rhyfeddol sydd wedi digwydd ers y tro cyntaf hwnnw a darganfod sut y gallwn fynd a phobl yn ôl i'r Lleuad a thu hwnt, i'r blaned Mawrth. Gydag arbrofion aruthrol a fideo a delweddau anhygoel, byddwch yn llawn cyffro am ddyfodol archwilio ’r gofod!

Archebwch nawr
Archwilio a Phaentio Eich Breuddwydion

Archwilio a Phaentio Eich Breuddwydion

Sul 6 Tachwedd 

2:00pm  Pob Oed

Hoffech chi ddefnyddio eich breuddwydion i greu gwaith celf? Ewch ati i ddweud wrth y gwyddonydd cwsg Mark Blagrove am eich breuddwyd a'i baentio gyda'r artist Julia Lockheart. Byddwch yn dysgu pam rydyn ni'n breuddwydio a'r wyddoniaeth sy'n sail i freuddwydion. Bydd eich paentiad yn cael ei daflunio ar y sgrîn fawr i bawb ei weld!

Archebwch nawr
Grymoedd Gwych

Grymoedd Gwych

Sul 6 Tachwedd 

3:00pm  7-11 Oed

Mae grym yn gweithredu o’n cwmpas bob amser ac yn symud ein cyrff, peiriannau a phlanedau hyd yn oed. Ymunwch â FLUX yn y gweithdy rhyngweithiol hwn wrth iddyn nhw archwilio deg math o rym gwahanol a’u ffwythiannau. Drwy symud, creu a llawer o gemau, byddwn yn eich annog i feddwl am y rôl y mae grym yn ei chwarae ym mhob cam o’ch bywyd.

Archebwch nawr
Sioe Balwnau Gwyddoniaeth

Sioe Balwnau Gwyddoniaeth

Sul 6 Tachwedd 

4:00pm Oed 4+

Mae pawb yn gwybod bod balwnau’n hwyl. Wel, os felly, rhaid bod hynny’n golygu bod gwyddoniaeth yn hwyl! Mae Becky Balwnatic wrth ei bodd gyda balwnau ac mae hi eisiau dangos faint y gallwn ddysgu gyda balwnau. Sioe sy’n llawn hwyl, sbri, ambell ffrwydrad a phop!

Archebwch nawr
Edrych i fyny

Edrych i fyny

Sul 6 Tachwedd 

5:00pm  7-11 Oed

Sut brofiad fyddai symud ar y blaned Mawrth? Allwch chi ddawnsio o amgylch Sadwrn? Ymunwch â chwmni Dawns FLUX mewn gweithdy deinamig fydd yn archwilio’r planedau sydd yng Nghysawd yr Haul a sut maen nhw’n symud. Paratowch, ofodwyr y dyfodol, am hwyl a sbri, gemau a dawnsio arallfydol.

Archebwch nawr
image of Chris Packham

Chris Packham: Lluniau o Ymyl y Byd - GWERTHU ALLAN

Sul 6 Tachwedd 

6:00pm  Pob Oed - Wedi gwerthu allan

Mae sioe newydd y cyflwynydd teledu, y naturiaethwr, y cadwraethwr, y ffotograffydd arobryn a’r awdur Chris Packham yn mynd i greu effaith. Yn herio syniadau confensiynol am beth yw  harddwch, beth yw ffotograffiaeth a chelf dda a beth yw eu pwrpas.

Mae’r holl docynnau wedi gwerthu! Wnaethoch chi golli allan ar docyn? Os felly, gallwch chi dal ymuno â'r rhestr aros a phan fydd tocynnau ar gael byddwn yn rhoi gwybod i chi. Dilynwch y ddolen i brynu a dewiswch 'ymuno â'r rhestr aros.'

Archebwch nawr
Logo Prifysgol Abertawe

Gwybodaeth bwysig

Nodwch gall y sioeau a gweithdau a nodwyd fod yn destun newid. Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y wefan neu ddigwyddiadau e-bostiwch swanseasciencefestival@swansea.ac.uk