Rhaglen i Ysgolion - Am ddim
Tân Tanllyd
Eleni, mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe (S4) yn gweithio gyda Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe i gyflwyno sioe wych yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin y mis Hydref hwn. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio gwyddoniaeth tân. Drwy ystod gyffrous o arbrofion ac arddangosiadau anhygoel, bydd disgyblion yn gweld y triongl tân ar waith ac yn darganfod sut gall tân gael ei ddefnyddio i arddangos cysyniadau gwyddonol eraill.
Beth y mae ei angen ar dân i losgi? Ydyn ni'n gallu dechrau tân gydag adwaith cemegol? A yw pob tân yn oren? Byddwn yn ateb y cwestiynau hyn a mwy yn ein sioe Tân Tanllyd.
Mae'r sioe hon yn seiliedig ar faes dysgu ac arbenigedd gwyddoniaeth a thechnoleg y Cwricwlwm i Gymru a bydd yn canolbwyntio ar y datganiadau isod o'r hyn sy'n bwysig...
- Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomena.
- Mae mater a'r ffordd y mae'n ymddwyn yn diffinio ein bydysawd ac yn llywio ein bywydau.
- Mae grymoedd ac ynni'n sail i ddeall ein bydysawd.
Bydd cynnwys y sioe'n canolbwyntio ar gamau dilyniant 2 i 4 ar gyfer y datganiadau hyn, ac felly fe'i hargymhellir ar gyfer disgyblion CA2 neu ddechrau CA3.
Nodwch fod pob sioe yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.