Parth yr LC - CHWARAEON AC YMARFER CORFF
Am y tro cyntaf eleni, mae gennym arddangosion rhyngweithiol am ddim i'w mwynhau yn yr LC sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth chwaraeon ynghyd â iechyd a lles, felly ymunwch â ni yn yr LC ar 5 Tachwedd gyda’n gwesteion arbennig - Y Gweilch, Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, SoFit, Ynni Da, tîm gwyddor chwaraeon Prifysgol Abertawe ac ymysg eraill.
Mae athletwyr a hyfforddwyr o'r radd flaenaf yn defnyddio gwyddoniaeth a pheirianneg yn helaeth er mwyn gwella perfformiad a'u tebygolrwydd o ennill, archwiliwch sut mae'r corff dynol yn gweithredu drwy ddefnyddio'r technolegau a'r ymchwil diweddaraf ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Profwch eich cyflymder, eich cryfder, eich adweithiau a'ch sgiliau gyda sawl gweithgaredd chwaraeon i'r teulu cyfan.