Parth yr Amgueddfa

Gweithgareddau Rhad Ac Am Ddim 5 a 6ed o Dachwedd

Adeiladwch fatri a theganau wedi'u pweru gan yr haul, cyd-ysgrifennwch gân gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial a darganfod sut byddai'r hen Eifftiaid yn mymïo eu meirwon gan ddefnyddio ein dymi maint person.

Dysgwch sut i ddod o hyd i lwch o'r gofod yn eich gardd gefn, ewch ati i wau paneli bach gan ddefnyddio plastig a dynnwyd o afonydd, traethau ac arfordiroedd yng Nghymru, a chewch hyd yn oed gwrdd â rhai o gyfeillion y goedwig law; nadroedd ymlusgol, ymlusgiaid rhyfeddol a chreaduriaid sy'n cripiad o Sŵ Trofannol Plantasia.

Darganfyddwch dros 30 o arddangosiadau rhyngweithiol i fynd â'ch meddyliau ar daith ddarganfod! Does dim angen cadw lle – dewch draw ac archwilio! Porwch drwy ein rhestr o arddangosiadau a fydd yn diddanu'r teulu cyfan isod.

Rhosili

Pili-palod, chwilod a gwenyn – beth sy'n digwydd yn Rhosili?

Mae Rhosili yn fwy na thraeth, mae'n hafan i fioamrywiaeth! Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn y caeau yn Rhosili a pham ei bod mor bwysig i blanhigion ac anifeiliaid

O ymchwil ryngwladol i'r lleol

O ymchwil ryngwladol i'r lleol

Faint o rwystrau sy'n effeithio ar ein hafonydd? Dysgwch faint o rwystrau sydd a sut y gallwch ddechrau eu gwaredu a gwneud ein hafonydd yn lleoedd gwell i bobl a bywyd gwyllt

Byd defnynnau a ffyrdd o'u defnyddio

Byd defnynnau a ffyrdd o'u defnyddio

Mae'r DU yn enwog am law: gan fod yn rhaid i ni fyw gydag ef, oni fyddai'n rhyfeddol gallu o leiaf rheoli maint y defnynnau hynny? Galwch heibio'n stondin i ddysgu sut

Sbesimenau arbennig ar garreg eich drws

Sbesimenau arbennig ar garreg eich drws

Dewch i weld ffosiliau, planhigion ac anifeiliaid o bob lliw a llun o gasgliadau arbennig Amgueddfa Cymru. Dewch i gyfarfod â Gwyddonwyr yr Amgueddfa a chlywed am ein hymchwil a'n casgliadau, o garreg eich drws i bellafoedd byd

Cyfryngau newydd ar hen gyfrifiaduron

Cyfryngau newydd ar hen gyfrifiaduron

Yn yr 1980au gwelwyd y cyfrifiaduron cartref a'r consolau cyntaf y mae artistiaid yn parhau i'w defnyddio heddiw i greu celfyddyd weledol a cherddoriaeth. Ewch at i ddefnyddio technoleg o'r 1980au a dysgwch sut i greu cerddoriaeth, delweddau a gemau

Sŵ Trofannol Plantasia

Sŵ Trofannol Plantasia

Ymwelwch â thîm Sŵ Trofannol Plantasia i ddysgu am eu casgliad coedwig law a chyfarfod â rhoi o'u hoff anifeiliaid, gan gynnwys nadroedd, ymlusgiaid a phryfetach. Bydd gwobrau yn cael eu rhoi drwy gydol y dydd

Cyfrinachau mymieiddio

Cyfrinachau mymieiddio

Dysgwch sut aeth yr Hen Eifftiaid ati i fymieiddio'r marw gyda'n mymi dymi maint llawn

Chwilio am Serlwch

Chwilio am Serlwch

Byddwch yn dditectif a dysgwch sut y gallwch ddod o hyd i lwch o'r gofod yn eich gardd eich hun

Eich ymennydd

Eich ymennydd

Drwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, gallwch ddysgu am yr ymennydd, dementia a'r hyn sy'n mynd o'i le

Gall Robotiaid Ysgrifennu Barddoniaeth?

Gall Robotiaid Ysgrifennu Barddoniaeth?

Ewch ati i wthio ffiniau creadigrwydd a chyd-ysgrifennu cerdd neu gân gyda help deallusrwydd artiffisial

Caru cynrhon

Caru cynrhon

Trowch eich ofn, eich anniddigrwydd neu'ch dirmyg tuag at gynrhon ar ei ben yn ein harddangosfa Caru Cynrhon sydd wedi'i threfnu gan Grŵp Ymchwil Cynrhon Prifysgol Abertawe

Chwilod a Chyffuriau

Chwilod a Chyffuriau

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio dyfodol gwrthfiotigau a therapïau amgen. Adeiladwch eich meicrob neu driniaeth eich hun ac ewch ati i gymharu therapïau amgen yn y dyfodol gan ddefnyddio ein gêm cardiau

Ydych chi'n gweld beth rwy'n ei weld?

Ydych chi'n gweld beth rwy'n ei weld?

Nid yw popeth bob amser fel y maent yn ymddangos. Yn y gweithgaredd hwn, byddwn yn dangos fideos i chi sydd wedi'u trin yn ôl nodweddion penodol ac yn gofyn i chi ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd

Caen gwrth-ddŵr gwyrdd heb y pris

Caen gwrth-ddŵr gwyrdd heb y pris

Dysgwch am ddewisiadau amgen i gaenau gwrth-ddŵr presennol sy'n ddiogel ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd a dysgwch sut mae dŵr ac olew yn rhyngweithio â samplau prawf

Mathemateg a'i heffaith ar y byd

Mathemateg a'i heffaith ar y byd

Stondin â ‘theganau’ mathemategol (e.e. pendil dwbl, teils Penrose, hormonograff ac eraill) y gallai ymwelwyr ryngweithio â nhw. Fel arfer, mae ymwelwyr ifanc yn chwarae â'n teganau tra bod eu rhieni a'u brodyr a chwiorydd hŷn yn gwrando ar esboniadau'r llysgenhadon

Iaith o'n cwmpas ym mhobman

Iaith o'n cwmpas ym mhobman

Dysgwch ychydig o iaith newydd a phrofwch eich gwybodaeth drwy ddadgodio neges gudd. Yna beth am weld sut mae eich enw yn edrych a sut mae'n cael ei ynganu mewn ieithoedd gwahanol

Cynaliadwyedd mewn byd materol

Cynaliadwyedd mewn byd materol

Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y ffordd mae Peirianwyr a Gwyddonwyr Deunyddiau yn datblygu atebion ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Ewch ati i ddefnyddio microsgopeg ac adeiladu eich teganau eich hun sydd wedi'u pweru gan fatris a'r haul

Uwchgyfrifiadura Cymru – y Cyfleuster Ymchwil Cenedlaethol

Uwchgyfrifiadura Cymru – y Cyfleuster Ymchwil Cenedlaethol

Dysgwch am sut mae'r cyfrifiaduron mwyaf pwerus yn y byd yn galluogi gwyddonwyr a pheirianwyr i efelychu systemau cymhleth

Gwybod eich hawliau

Gwybod eich hawliau

Gyda thechnoleg gyfreithiol yn newid barn pobl ar hyn a'r gyfraith yn fwy na thestun ar statud erbyn hyn – mae'n rhywbeth y gallwch ei phrofi, ei deall a'i chymhwyso at eich materion eich hun – dewch i archwilio dyfodol cyfraith Cymru yn ein harddangosfa ryngweithiol

Cystadleuaeth codio SCRATCH

Cystadleuaeth codio SCRATCH

Profwch eich sgiliau datrys problemau, eich gallu i weithio mewn tîm a'ch gwybodaeth am gyfrifiadura yn ein cystadleuaeth codio

Hopiwch o amgylch a nodwch pa mor dda yw eich ardal leol

Hopiwch o amgylch a nodwch pa mor dda yw eich ardal leol

Hopiwch o amgylch rhai o'ch holl fannau awyr agored a nodwch pa mor dda yw eich parciau, traethau, coedwigoedd a chaeau chwarae lleol ar ein map rhyngweithiol llawn hwyl

Teimlwch yr ysfa

Teimlwch yr ysfa

Pan fydd y pethau ar ein desg, sil y ffenestr neu yn yr oergell wedi'u trefnu fel y dylent, mae'n gwneud i ni deimlo'n dda. Ymwelwch â'n harddangosfa a dilynwch yr ysfa anesboniadwy i drefnu'r eitemau sy'n cael eu harddangos fel y mynnoch, ac archwiliwch pa fath o batrymau sy'n gwneud i ni deimlo'n dda

Cwrdd â'ch meicrobau

Cwrdd â'ch meicrobau

Dysgwch am y meicrobau sy'n byw ar eich dwylo a sut i dorri drwy fioffilm

Hud STEM yn Y Brifysgol Agored

Hud STEM yn Y Brifysgol Agored

Rhowch gynnig ar eich pecynnau gwyddoniaeth a dysgwch fwy am fyd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)

Gwyddoniaeth Biofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe

Gwyddoniaeth Biofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe

Beth mae gwyddonwyr biofeddygol yn ei wneud? Byddwn yn dangos i chi drwy weithgareddau llawn hwyl i'r teulu cyfan

Y goeden dysgu gydol oes

Y goeden dysgu gydol oes

Beth mae dysgu yn ei olygu i chi? Ychwanegwch eich ymateb i'n cerflun o goeden dysgu gydol oes a byddwch yn rhan o'r ateb

Robotiaid yn rhuthro

Robotiaid yn rhuthro

Dewch i'n gweithdy robotiaid i gyfarfod â'n cŵn robot a'n cath robot 8 troedfedd

Mae morgrug yn wych

Mae morgrug yn wych

Darganfyddwch anatomi rhyfeddol morgrug, eu sgiliau arbennig a'u rhyngweithrediadau anhygoel

Llygredd a llanw

Llygredd a llanw

Ewch ati i weu paneli bach gan ddefnyddio plastig a achubwyd o afonydd, traethau ac arfordir Cymru

Logo Prifysgol Abertawe

Gwybodaeth bwysig

Nodwch gall y stondinau a nodwyd fod yn destun newid. Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y wefan neu ddigwyddiadau e-bostiwch swanseasciencefestival@swansea.ac.uk