Manylion Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Rydym yn dychwelyd!
Mae’n bleser gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyhoeddi Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2022, yr ŵyl fwyaf o'i math yng Nghymru !
Bydd ein penwythnos teuluol hynod ddisgwyliedig yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar Dydd Sadwrn 5ed a Dydd Sul 6ed Tachwedd gyda gŵyl ymylol na ddylid ei cholli. Gyda dros 40 o arddangosfeydd a channoedd o weithgareddau rhyngweithiol ynghyd â sioeau, sgyrsiau a gweithdai gwych a digonedd o weithgareddau gwyddoniaeth ymarferol ar gyfer pob oedran a lefel o wybodaeth, byddwch chi'n profi gwyddoniaeth fel nad ydych wedi ei brofi erioed o’r blaen!
Dewch draw i ddatgloi terfynau eich dychymyg!
YMUNWCH Â’R HWYL – RHESTR E-BOST
Mae tîm SSF22 yn brysur yn cynllunio rhaglen ‘Ffiniau’ eleni a byddai wrth ei fodd yn cadw mewn cysylltiad â chi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ŵyl a phryd bydd tocynnau ar gael ar gyfer digwyddiadau. I dderbyn yr wybodaeth hon a llawer mwy, gan gynnwys ffeithiau gwyddonol, cystadlaethau a mynediad cynnar at docynnau, cofrestrwch yma.
Cymryd rhan
Gwybodaeth Arddangoswr
Thema'r ŵyl eleni yw 'Frontiers', sy'n archwilio gwybodaeth a darganfyddiadau o'r radd flaenaf sy'n sail i'n hymrwymiad i'r Nodau Datblygu Cynaliadwy a chyda Gwytnwch fel thema drawsbynciol. Beth bynnag yw’ch maes – o wyddoniaeth a pheirianneg, i’r dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, meddygaeth, iechyd a’r gwyddorau bywyd a mwy – dyma’r ŵyl i chi!
Gwneud Cais heddiw