Abertawe yw un o ganolfannau mwyaf blaenllaw y DU ym maes addysgu ac ymchwil defnyddiau. Mae'r ymchwil defnyddiau a wneir ym Mhrifysgol Abertawe, sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol, yn cael ei ariannu gan sefydliadau arbennig megis Rolls-Royce, Airbus, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd a Tata Steel.
Ymhlith y meysydd ymchwil allweddol mae dylunio i atal methiant drwy ymgripiad, lludded a difrod amgylcheddol, serameg a metelau strwythurol ar gyfer cymwysiadau tyrbinau nwy, peirianneg ffiniau graen, ailgylchu polymerau a defnyddiau cyfansawdd, mecanweithiau cyrydu'r genhedlaeth newydd o aloion magnesiwm, datblygu graddau newydd ar gyfer dur stribed (IF, HSLA, Dual Phase, TRIP) a chaenau gweithredol ar gyfer cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni.