Yr Her
Mae llygredd plastig yn broblem amgylcheddol ddifrifol sy'n effeithio ar bobl a'r blaned mewn sawl ffordd. Rydym i gyd yn bwyta ac yn anadlu plastigau bob dydd oherwydd bod bron 60% o'r 83 miliwn tunnell fetrig o blastig a gynhyrchwyd erioed wedi’i daflu i'r amgylchedd. Ni wyddys beth fydd y canlyniad hirdymor oherwydd dim ond nawr rydym wedi dechrau darganfod y deunydd, ond mae eisoes wedi'i ddarganfod mewn brychau dynol iach. Ac erbyn 2050, gallai fod mwy o blastig yn y môr na physgod yn ôl pwysau.
Y Dull
Mae ymchwilwyr yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg wedi creu technoleg newydd sy’n gallu ailgylchu plastig tafladwy i fod yn nanodiwbiau carbon cost-effeithiol o’r radd flaenaf.
Mae gan nanodiwbiau carbon y potensial i greu defnydd amgen cynaliadwy ar gyfer gwastraff plastig trwy gynhyrchu deunydd gwerthfawr sydd â chymwysiadau lluosog, gan gynnwys electroneg, storio ynni, a hyd yn oed meddygaeth.
Mae nanodiwbiau carbon yn gryfach na dur, maent yn uwch-ddargludol, yn ysgafn ac yn amlbwrpas iawn. Gall nanodiwbiau chwarae rhan hanfodol mewn lleihau allyriadau carbon, gan weithredu fel sinciau carbon sylweddol trwy ddargyfeirio carbon o ddeunyddiau gwastraff, a thrwy hynny gyfrannu at warchod ein hatmosffer a'n hamgylchedd.
Yr Effaith
Ymchwil o fewn y Brifysgol yn gyrru newid cadarnhaol i'r amgylchedd a'r gymdeithas drwy:
- Arwain arloesedd ac ymchwil ar arferion newydd ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg er mwyn creu gwerth newydd i ddeunyddiau gwastraff.
- Rhoi’r economi gylchol ar waith drwy greu swyddi yn y diwydiannau hyn yn y dyfodol.
- Datblygu a rhannu gwybodaeth addysgol ar blatfformau byd-eang er mwyn gwella ymwybyddiaeth o'r broblem blastig a'i datrysiadau niferus.
- Mae hyrwyddo cynaliadwyedd drwy greu dewisiadau amgen i "fusnes fel arfer" yn helpu i warchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
- Dargyfeirio plastig o safleoedd tirlenwi a allai fel arall gael ei droi drosodd yn ein pridd a mynd i mewn i'n cyflenwad bwyd a dŵr.