Nod ein Sefydliad Ymchwil Iechyd, Technoleg ac Atebion yw creu cymuned ymchwil gynhwysol sy'n annog creadigrwydd, yn darparu cymorth gyda chyllid ac yn helpu staff academaidd i gyflawni allbynnau sylweddol.
Mae ein harbenigedd yn y Sefydliad yn cynnwys y themâu canlynol:
- Biowyddorau - cynhyrchion naturiol, rheoli fectorau, profi systemau infertebrat ac ymddygiad anifeiliaid
- Cemeg - cyfansoddion arweiniol newydd ar gyfer y diwydiant bwyd, therapiwteg, cynhyrchion maethol-fferyllol a chosmetigau.
- Cyfrifiadureg - diagnosteg, deallusrwydd artiffisial, data mawr a dysgu peirianyddol.
- Peirianneg - diagnosteg, technoleg synhwyro, awtomeiddio, roboteg a nanodechnolegau.
- Gwyddor Chwaraeon - iechyd a lles a ffitrwydd.
Byddwn yn canolbwyntio ar nodi a chwalu'r rhwystrau sy'n llesteirio gwaith ymchwil, datblygu a gweithredu technoleg, cynhyrchion, gwasanaethau ac atebion digidol ym maes iechyd.
Cryfhau'r cysylltiadau ar draws y Brifysgol, ar y cyd â'r GIG a phartneriaid ym myd diwydiant a chyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau i fynd i'r afael â heriau byd-eang ym maes iechyd.