Gweledigaeth
Yn Sefydliad Zienkiewicz, credwn yn gryf fod modelu, data a datblygiadau technolegol mewn perthynas ag AI yn chwarae rôl allweddol mewn gweithredu ar yr hinsawdd, yn enwedig:
- wrth gymhwyso modelu, gwyddor data ac AI i ymagweddau gwyddonol a pheirianneg er mwyn creu cymdeithas lân, werdd, gylchol, wydn ac addasadwy
- Modelu ac asesu atebion arloesol i gyflymu'r gwaith o ddatblygu a gweithredu atebion sero net er mwyn lleihau effaith newid yn yr hinsawdd a chyflawni cynaliadwyedd
- Modelu ffisegol ac ar sail AI, rhagfynegi a lliniaru effaith eithafoedd hinsoddol ar isadeiledd, yr amgylchedd naturiol a'r amgylchedd adeiledig
- Cefnogi ymdrechion modelu rhyngddisgyblaethol i gyflawni cynaliadwyedd a gallu i addasu er lles ein hamgylchedd a'n cymdeithas
Arweinwyr Thema