Mae tymereddau byd-eang uwch yn cynyddu tywydd afreolaidd megis tonnau gwres, cyfnodau oer, sychderau a stormydd, gan arwain at golli eiddo a bywydau.

Mae'r dirywiad ym mhob rhan o'r cryosffer yn bygwth yr ecosystemau bregus ac yn cael sgîl-effeithiau ar y system hinsawdd fyd-eang.

Mae toddi'r rhewlifoedd a'r llenni iâ'n codi lefel fyd-eang y môr, sy'n peryglu cymunedau arfordirol drwy erydu traethlinau, halwynedd, llifogydd, ymchwyddiadau storm, a cholli bioamrywiaeth arfordirol.

Er mwyn wynebu'r heriau hyn, mae ymchwilwyr y Sefydliad Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd (CARI) yn gweithio tuag at ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd a datblygu dulliau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addasu ein ffordd o fyw i gyd-fynd â'r realiti newydd.

Yr Athro Harshinie Karunarathna

Athro,
+44 (0) 1792 606549
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Prosiectau

CARI web pages

Lliniaru perygl meteorolegol hydro yn Indonesia

Mae'r prosiect hwn yn archwilio sut a pham mae'r trefniadau rheoli afonydd trawsffiniol presennol yn lliniaru neu'n dwysáu perygl llifogydd mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd o gwmpas trefi yn Jakarta, Indonesia, yn sgîl newidynnau ffisegol allweddol o ran llifogydd, ac unrhyw newidiadau i lawiad, lefel y môr a stormusrwydd. Mae'r astudiaeth yn mynd i'r afael â threfniadau rheoli trawsffiniol ar fasn afon Chiliwong (CRB) yn Jakarta, sy'n croesi dwy dalaith (Gorllewin Java a Rhanbarth Arbennig Jakarta) a phum ffin drefol (dinas Subokor, rhaglywiaeth Bogor, dinas Bogor, dinas Depok, Jakata). Caiff ymagwedd ryngddisgyblaethol ei mabwysiadu sy'n mynd i'r afael â'r broblem o safbwyntiau amgylcheddol, ffisegol, llywodraethu a gwendidau cymdeithasol. Gan ddefnyddio fframwaith damcaniaethol cyfoes, mae'n rhagweld effeithiau newid yn yr hinsawdd ar lifogydd cyfansawdd yn CRB o'r môr a'r tir, ac yn dadansoddi elfennau sefydliadol allweddol o weithrediad gwael mesurau rheoli llifogydd a allai ddylanwadu’n gadarnhaol ar weithrediad mesurau rheoli llifogydd yn CRB.

Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.