Gan gydnabod bod angen dod o hyd i atebion teg, nod y thema hon yw mynd i'r afael â dimensiynau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gweithredu ar yr hinsawdd. 

Mae ymchwilwyr yn archwilio technolegau arloesol sy'n hyrwyddo cynhyrchu ynni glân, storio, trafnidiaeth, systemau clyfar, effeithlonrwydd ynni a rheoli adnoddau cynaliadwy, gan ganolbwyntio ar fathu a datblygu technolegau arloesol i bontio'n deg i ddyfodol cynaliadwy.

Yn ogystal, rydym yn ymchwilio i oblygiadau cymdeithasol technolegau newydd, gan sicrhau na fydd cymunedau bregus yn colli tir.

Drwy feithrin cydweithrediad rhwng gwyddonwyr, llunwyr polisi a chymunedau, rydym yn ymdrechu i bontio mewn modd sy'n gadarn yn amgylcheddol ac yn deg yn gymdeithasol. 

Yr Athro Ian Mabbett

Athro,
+44 (0) 1792 606601
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig