Mae prifysgolion wedi arwain ymchwil i'r argyfwng hinsawdd ers degawdau, ond mae allyriadau a thymereddau byd-eang yn parhau i gynyddu. Er i lawer o sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, gyhoeddi argyfyngau hinsawdd, gallem wneud llawer mwy i ysgogi gweithredu ar yr hinsawdd.
Ein nod yw archwilio a chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod gweithredoedd Prifysgol Abertawe ar yr hinsawdd yn rhoi ein geiriau ar waith mewn modd mwy cyflawn.
Mae angen i ni ddwysáu ac ehangu ymdrechion fel y bydd staff a myfyrwyr yn creu – gyda'i gilydd – y galluoedd emosiynol, deallusol ac ymarferol i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol.