PARTNERIAETH AML-BRIFYSGOL A GEFNOGWYD gan yr UE
Cafodd ASTUTE, ASTUTE 2020, ac ASTUTE EAST eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Sefydliadau Addysg Uwch cyfranogol.
Yn gyfan gwbl, mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a phartneriaid academaidd ASTUTE wedi buddsoddi £53.6 miliwn o arian cyhoeddus yn y gweithrediad rhwng 2010 a 2022. Am bob £1 o arian cyhoeddus a wariwyd mae’r gweithrediad wedi cynhyrchu £10 i economi Cymru, gan arwain at effaith economaidd o £541 miliwn.
Daeth cyllid Ewropeaidd ar gyfer gweithrediad ASTUTE i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
ASTUTE (2010 - 2015)
Arweiniwyd gweithrediad ASTUTE cyntaf gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
ASTUTE 2010-2015 Industrial Collaborations
ASTUTE 2020+ (2015 - 2022)
Arweiniwyd ASTUTE 2020+ gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.