Caiff Prifysgol Abertawe ei chydnabod fel un o brifysgolion gorau'r DU ar gyfer peirianneg.
Mae'r cynllun EngD yn un o brosiectau blaenllaw'r Cyngor Ymchwil Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), sy'n ariannu ein rhaglenni EngD yn rhannol. Mae'r EPSRC yn dewis ariannu sefydliadau uchel eu parch, sy'n anelu at ragoriaeth ym maes ymchwil ac sydd â chysylltiadau diwydiannol da.
Mae holl raglenni EngD Abertawe yn cynnwys bwrsari di-dreth hael ac mae'r holl ffioedd dysgu yn cael eu talu gan y cynllun.
Byddwch hefyd yn cael budd o'r canlynol:
Ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod yn arweinydd yn y diwydiant yn y dyfodol
Gwella eich cyfleoedd a'ch rhagolygon gyrfa
Meithrin profiad gan ddefnyddio'r technegau diweddaraf trwy eich prosiect ymchwil eich hun
Datblygu eich arbenigedd trwy amrywiaeth o fodiwlau a addysgir
Ymuno â rhwydwaith o gyd-beirianwyr ymchwil a chysylltiadau yn y diwydiant
Caiff ein gweithgareddau i gyd eu llywio a'u hategu gan ymchwil o'r radd flaenaf, fel y cydnabyddir yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, lle cafodd Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe ei rhoi yn y 10fed safle yn y DU am ei sgôr gyfun ar gyfer ansawdd ymchwil yn y disgyblaethau Peirianneg.
Mae'r Fframwaith yn dangos bod 94% o ymchwil ein staff academaidd o'r radd flaenaf (4*) neu'n rhyngwladol ardderchog (3*). Mae hyn wedi cynyddu o 73% yn RAE 2008.
Mae gwaith ymchwil a gaiff ei arloesi yn y Coleg Peirianneg yn manteisio i'r eithaf ar arbenigedd staff academaidd yr adran. Mae'r gwaith ymchwil amlddisgyblaethol arloesol hwn yn llywio ein haddysgu gwych ac mae llawer o'n staff yn arweinwyr yn eu meysydd.