Egluro Statws Achrededig
Mae achrediad yn nod sicrwydd bod y radd yn cyrraedd y safonau a nodir gan y Cyngor Peirianneg yn y ddogfen, UK Standard for Professional Engineering Competence (UK-SPEC).
Bydd gradd achrededig yn rhoi o leiaf rhywfaint, os nad yr holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch er mwyn cofrestru yn y pen draw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu'n Beiriannydd Siartredig (CEng).
Mae'n well gan rai cyflogwyr recriwtio unigolion o raddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.
Caiff graddau eu hachredu gan y sefydliadau peirianneg proffesiynol unigol dan drwydded y Cyngor Peirianneg. Gall gradd gael ei hachredu gan fwy nag un sefydliad peirianneg, yn enwedig os yw'n rhychwantu sawl disgyblaeth beirianyddol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen 'Information for Students' ar wefan y Cyngor Peirianneg.