Dyma ein horiau agor:
Mawrth 10yb – 12.30yh a 1.30yh – 4yh
Iau 10yb – 12.30yh a 1.30yh – 4yh
Bydd uchafswm o 4 darllenydd yn cael mynd i mewn ar yr un pryd, a bydd angen archebu lle yn yr Ystafell Ddarllen ymlaen llaw ac archebu dogfennau dri diwrnod gwaith cyn eich ymweliad. Er enghraifft, os oes gennych apwyntiad ar ddydd Mawrth, archebwch eich dogfennau erbyn 5pm ar y dydd Iau blaenorol; os oes gennych apwyntiad ar ddydd Iau, archebwch eich dogfennau erbyn 5pm ar y dydd Llun blaenorol. Gofynnwn i bob darllenydd gysylltu â ni yn archives@abertawe.ac.uk neu 01792 295021 cyn eich ymweliad er mwyn trafod eich gofynion.
Mae rhagor o wybodaeth am ailagor ar gael yma.
Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth ateb ymholiadau.