Bydd ymweld â Phrifysgol Abertawe'n rhoi cyfle i chi weld pam rydym mor llwyddiannus yn y tablau cymharu prifysgolion!
Rydym wedi ennill y teitl Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2019. Rydym yn un o'r 30 o brifysgolion gorau yn y DU, yn ail yn y rhestr o Brifysgolion y Flwyddyn a ni yw Prifysgol y Flwyddyn Cymru (The Times a'r Sunday Times, Canllaw i Brifysgolion Da 2019).
Rydym yn un o'r 5 orau yn y DU o ran boddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2018). Dyfarnwyd y wobr uchaf bosib i ni, sef y wobr aur, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (2018). Rydym hefyd wedi ennill pum seren am ansawdd addysgu gan y system graddio prifysgolion byd-eang, QS Stars.
Mae ein campysau mewn lleoliadau hyfryd, yn enwedig Campws y Bae, sydd wrth ymyl y traeth ei hun. Rydym yn adnabyddus am ein croeso cynnes a'n cyfeillgarwch, rhywbeth mae myfyrwyr ac ymwelwyr yn sôn amdanynt yn aml - ac rydym yn falch iawn o'n diwylliant o gynwysoldeb.