GO Wales: Student Employability | GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr

GO Wales: Cyflogadwyedd Myfyrwyr

Cynhelir y prosiect cyflogadwyedd newydd gan Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe â chyllid gan CCAUC i ddarparu cymorth penodol i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is i gyrraedd eu potensial ac i gyflawni eu nodau a'u huchelgeisiau. Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar weithgareddau rhaglen flaenorol GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith.

Gall cyflogwyr lleol elwa o gyfleoedd profiad gwaith o wahanol hydoedd gan gynnwys:

  • Cysgodi gwaith di-dâl (1-3 diwrnod)
  • Profiadau blas ar waith di-dâl (2-14 o ddiwrnodau)
  • Lleoliadau gwaith â chymorthdal llawn (21-30 o ddiwrnodau)

Nod cyfleoedd profiad gwaith yw cynorthwyo myfyrwyr i feithrin sgiliau newydd a hanfodol mewn diwydiannau penodol a rhoi cymorth i gyflogwyr gan fyfyrwyr gweithgar a brwdfrydig.

Byddwn hefyd yn cefnogi myfyrwyr drwy gynnig cyfleoedd eraill gan gynnwys:

  • Bwrsariaethau cyflogadwyedd: mae hyd at £500 ar gael ar gyfer hyfforddiant a gweithgarwch Datblygu Proffesiynol Parhaus. Gall myfyrwyr ddod â'r wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd o'r hyfforddiant hwn yn uniongyrchol i'ch busnes.
  • Digwyddiadau cyflogadwyedd i fyfyrwyr sy'n canolbwyntio ar feithrin sgiliau myfyrwyr a'u paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gwahoddir cyflogwyr lleol i drafodaethau 'bwrdd crwn' gyda myfyrwyr lle gallant rannu eu hawgrymiadau hanfodol ar gyfer gyrfaoedd, a bydd digwyddiadau rhwydweithio gyda chwmnïau sy'n penodi
  • Cyfleoedd mentora (mewn cydweithrediad â thîm Mentora Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol): Gall cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd mewn swyddi ar lefel raddedig helpu myfyrwyr i fagu hyder a thyfu'n bersonol ac yn broffesiynol, fel y gallant archwilio a chreu eu cyfleoedd eu hunain.
  • Cymorth Cyflogadwyedd, Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth: rydym yn helpu myfyrwyr i ddod yn fwy entrepreneuraidd ac yn eu galluogi i feithrin y meddylfryd, y profiadau a'r sgiliau i ddechrau eu busnesau eu hunain, gyrfa lawrydd neu fenter gymdeithasol. Rydym yn croesawu gweithdai a mentrau a arweinir gan gyflogwyr, sy'n darparu profiadau gwerthfawr ac yn helpu i greu cyfleoedd i'n myfyrwyr ddod yn entrepreneuraidd.

Hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect? Byddem wrth ein boddau'n clywed gennych chi!

Cysylltwch a ni heddiw!