Gallwn helpu i lenwi lleoliadau gwaith, swyddi rhan-amser a rolau i raddedigion
Rydym yn ymrwymedig i gynhyrchu graddedigion hyderus, hyblyg a chyflogadwy iawn. Felly, os ydych yn chwilio am rywun i lenwi lleoliad gwaith, rôl ran-amser neu os hoffech gynnig cyfle i fyfyriwr graddedig, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r ymgeisydd perffaith o'n cronfa ddoniau o dros 20,000 o fyfyrwyr.
Bydd ein tîm ymroddedig yn gweithio gyda chi drwy gydol y broses recriwtio er mwyn deall eich anghenion unigol a sicrhau eich bod yn denu'r myfyrwyr a'r graddedigion gorau i'ch sefydliad.
Ffair Yrfaoedd a Ffair Swyddi Rhan-amser Ganmlwyddiant Prifysgol Abertawe 2020/21
Yn sgil argyfwng pandemig COVID-19 yn ddiweddar mae Prifysgol Abertawe’n gweithio gyda phob rhanddeilad er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o gynnal ein Ffair Swyddi Rhan-amser a’n Ffair Gyrfaoedd rithwir Ganmlwyddiannol 2020/21. Caiff gwybodaeth bellach ei phostio pan fydd hi ar gael ac yn y cyfamser dylech chi gofrestru eich diddordeb trwy e-bostio Linda Palmer, Cydlynydd Digwyddiadau i Gyflogwyr l.m.palmer@abertawe.ac.uk