1. Gweledigaeth Strategol a Diben Prifysgol Abertawe
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cydnabod bod arfogi myfyrwyr â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth, yn ogystal â'r sgiliau a'r rhinweddau, i weithio mewn ffordd sy'n diogelu lles amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, yn angenrheidiol wrth allu llywio dyfodol cynaliadwy. Mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig ar y lefel uchaf i wreiddio cynaliadwyedd mewn addysgu, fel yr amlinellir yng Ngweledigaeth Strategol a Diben y Brifysgol.
Yn benodol, ar y lefel strategol uchaf, prif ymrwymiad ein Prifysgol yw “alinio ein gwaith â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy."
Gweledigaeth Strategol a Diben Prifysgol Abertawe:

Ein hymrwymiadau: (tudalen 7)
Argyfwng yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas o hyd. Byddwn yn alinio ein gwaith â'r nodau Datblygu Cynaliadwy a byddwn yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2040.
Cyfrifoldeb cymdeithasol: (tudalen 22)
Byddwn yn gweithio i wreiddio'r Nodau Datblygu Cynaliadwy ym mhob rhan o'n cwricwlwm, gan gysylltu addysgu â heriau cymdeithasol. Byddwn yn cynyddu'r gyfran o'n staff sy'n dod o gefndiroedd BAME ar bob lefel a byddwn yn cynnwys rhagor o safbwyntiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ein cwricwlwm i leihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad. Rydym hefyd yn cydnabod y dylai dysgu fod yn weithgarwch gydol oes a byddwn yn cynyddu cyfleoedd i oedolion sy'n dysgu feithrin sgiliau newydd a dilyn trywydd eu diddordebau deallusol.
Ein Hymchwil: (tudalen 26)
Mae ein hymchwil yn newid bywydau, yn ysgogi arloesi a thwf rhanbarthol ac mae'n cydweddu â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae'n effeithio ar ein diwylliant a'n cymdeithas, yn ogystal ag ar ein hiechyd a'n lles, ein heconomi a'n planed. Rydym yn ysgogi newidiadau mewn polisi yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym ar flaen y gad mewn llawer o feysydd, gan gynnwys: gweithgynhyrchu uwch ac arloesi ym maes ynni glân a'r economi ddigidol; nanoiechyd a dadansoddi data iechyd ar raddfa fawr; gwerthuso'r farchnad lafur, defnydd gan derfysgwyr o'r rhyngrwyd a chadwraeth ein treftadaeth ddiwydiannol. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o asesu a lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig ag argyfwng yr hinsawdd ac rydym yn gweithio i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac i gyfoethogi bywydau pawb drwy ein dealltwriaeth o hanes a'r celfyddydau.
Ein Blaenoriaethau Ymchwil: (tud 29)
Byddwn yn sefydlu'r Sefydliad Uwch-astudiaethau cyntaf yng Nghymru â phwyslais penodol ar ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n cael effaith ac sy'n berthnasol i bolisïau ac yn ymateb i'r nodau Datblygu Cynaliadwy.
2. Gweithredu ac Olrhain Cynnydd mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy
Ar hyn o bryd, mae'r Tîm Cynaliadwyedd mewn trafodaeth ag Undeb y Myfyrwyr i'n galluogi i symud ymlaen ac ennill achrediad Dyfodol Cyfrifol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Yn y cyfamser, rydym yn defnyddio ein system rheoli amgylcheddol allanol a chyfres o brosesau archwilio mewnol, yn ogystal â mapio gwaith y Nodau Datblygu Cynaliadwy ledled y Brifysgol, gan gynnwys mewn addysgu ac ymchwil ym mhob Cyfadran, fel rhan o ofynion Cytundeb y Nodau Datblygu Cynaliadwy.
3. Cefnogi Staff Academaidd
Mae'r Brifysgol wedi hen ddarparu 'Gwobr Cynaliadwyedd' allgyrsiol cydnabyddedig HEAR, ar gyfer pob myfyriwr. Mae hyn bellach wedi newid o'i fformat presennol ac mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy wedi'i hintegreiddio'n fwy ffurfiol, fel rhan o'r cwricwla ar draws cyfadrannau a chyrsiau. Mae'r Wobr Gynaliadwyedd newydd yn cysylltu'n uniongyrchol â gwaith y Brifysgol a'r Gyfadran, gyda darlithwyr gwadd ac ymchwilwyr yn ogystal â gwaith gwirfoddoli ac ymgysylltu â chymdeithas ehangach Abertawe.
Mae'r gwaith Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy hwn yn cynnwys eitemau safonol, yn ogystal â rhywfaint o addasu a chynnwys pwrpasol, gan ddibynnu ar y Gyfadran neu'r cwrs. Yma ceir enghraifft o gynnwys y cwrs ar gyfer myfyrwyr ar lefel MBA yn yr Ysgol Reolaeth: Amserlen Gwobr Cynaliadwyedd. Mae'r wobr integredig newydd bellach ar gael ar gyfer pob cwrs, ac mae'n gwneud cymorth a hyfforddiant ar gael i staff academaidd drwy ddarparu cwrs Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy sydd wedi'i ddyfeisio'n benodol i'w integreiddio yn eu cwricwlwm penodol.
4. Camau Gweithredu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy
Mae Prifysgol Abertawe yn aelod o Addysg Egwyddorion Rheolaeth Gyfrifol ac mae wedi llofnodi'r rheini, sydd â'r nod o integreiddio agweddau ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ar draws cwricwla. Mae'r Brifysgol yn dangos ei chefnogaeth a'i hymroddiad i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy drwy ystod o brosiectau arloesol ac amlddisgyblaethol ledled ein holl gyfadrannau ac adrannau.
Mae enghreifftiau o waith adrannau academaidd a chyfadrannau i hyrwyddo a chynnig cyfleoedd academaidd i fyfyrwyr i gymryd rhan a dysgu drwy ddysgu yn y byd go-iawn, yn cynnwys:
Labordai Byw - Tystiolaeth o Brosiectau
Enghreifftiau o labordai byw mewn perthynas â Bioamrywiaeth ar y campws:
Enghreifftiau o labordai byw mewn perthynas ag Ynni a Charbon ar y campws:
Mae campws y bae yn gartref i SPECIFIC: ADEILADAU YMCHWIL SOLAR A GWEITHREDOL. Mae ymchwilwyr ar y prosiect, gan gynnwys yr Athro Dave Worsley o Brifysgol Abertawe’n rhan o’r ystafell ddosbarth ynni cadarnhaol gyntaf yn y DU, sy’n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ei hynni solar ei hun.
Fel rhan o'r rhaglen Meistr Peirianneg EG-M85, mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn gweithio gyda thîm Gwasanaethau Technegol Ystadau ar y modiwl Rheoli Prosiect i adrodd ar sut y gall y campws weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy. Darperir data defnyddio amwynderau manwl a chyfoes i fyfyrwyr (drwy'r prif ddarlithydd, Dr Kiyohide Wada). Mae hyn yn gwella'r profiad dysgu, gan ei droi o brosiect "ffuglennol" i sefyllfa "byd go iawn" lle gall Prifysgol Abertawe ddefnyddio canlyniadau prosiect y myfyrwyr at ddibenion gwella cynaliadwyedd yn y dyfodol.
Ar y rhaglen Meistr hon, cynigir teithiau o amgylch y campws hefyd i ddangos y dechnoleg beirianneg sy'n darparu gwres a phŵer i adeiladau'r brifysgol ar hyn o bryd, yn enwedig y Rhwydwaith Gwres Rhanbarthol a'r Ganolfan Ynni ar Gampws Singleton.
Yn ogystal, mae adeiladau campws y Brifysgol wedi'u harolygu gan fyfyrwyr BEng i nodi lle gall mesurau goleuo LED ac arbed dŵr gael eu cyflwyno gydag amcangyfrif o gostau cyfalaf ac arbedion amwynderau a charbon posib.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi datblygu nifer o grwpiau cysylltiedig sy'n gweithio tuag at y Grwpiau Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru. Drwy'r grŵp hwn, rydym yn canolbwyntio ar rannu arferion da ynghylch Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a chynaliadwyedd, ac yn ddiweddar gwnaethom ddechrau rheoli Canolfan Ragoriaeth Ranbarthol y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru. Mae grwpiau eraill sy'n gysylltiedig â'r Grwpiau Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru yn cynnwys:
- Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Economi Gylchol (y cadeirydd yw Gavin Bunting, Prifysgol Abertawe).
- Dysgu ac Addysgu ar gyfer Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Prifysgolion Iach.
- Cydweithredu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Adfywio a Chymunedau Cydlynol, Cyfathrebu Effeithiol.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi datblygu nifer o grwpiau cysylltiedig sy'n gweithio tuag at y Grwpiau Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru. Drwy'r grŵp hwn, rydym yn canolbwyntio ar rannu arferion da ynghylch Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a chynaliadwyedd, ac yn ddiweddar gwnaethom ddechrau rheoli Canolfan Ragoriaeth Ranbarthol y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru. Mae grwpiau eraill sy'n gysylltiedig â'r Grwpiau Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru yn cynnwys:
- Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Economi Gylchol (y cadeirydd yw Gavin Bunting, Prifysgol Abertawe).
- Dysgu ac Addysgu ar gyfer Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Prifysgolion Iach.
- Cydweithredu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Adfywio a Chymunedau Cydlynol, Cyfathrebu Effeithiol.
5. Ehangu mynediad at addysg uwch
Mae gan y Brifysgol Ysgoloriaeth Noddfa ar gyfer Graddau Meistr Ôl-raddedig a Addysgir a fydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sy'n ceisio lloches i gyflwyno cais am ysgoloriaeth. Yn ogystal â'r ysgoloriaeth, mae ein cydweithwyr BywydCampws wedi creu cronfa ddefnyddiol o adnoddau i geiswyr lloches a ffoaduriaid, sydd ar gael drwy eu tudalennau gwe.