Beth gallaf ei wneud am ddefnyddio dŵr? Pa ddŵr gwastraff sy’n cael mynd i lawr y draen?

Mae bil dŵr y Brifysgol yn costio dros hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn, ac mae’n effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd oherwydd y dŵr gwastraff a greir y bydd angen i Dŵr Cymru ei lanhau ar ôl hynny er mwyn iddo fynd yn ôl i’n hafonydd a’n moroedd. Os bydd eich prosesau labordy yn defnyddio symiau bach o ddŵr neu lawer ohono, bydd defnyddio llai yn helpu i liniaru’r effaith hon.
Mae pethau syml y gallwch eu gwneud er mwyn defnyddio llai o ddŵr a chreu llai o ddŵr gwastraff yn cynnwys:
- Byddwch yn ymwybodol o’r hyn yr ydych yn cael gwared ag ef drwy’r draen. Ni ddylid cael gwared â chemegau peryglus drwy’r draen; dilynwch y Weithdrefn ynghylch Gwastraff Cemegol.
- Efallai bydd yn bosibl cael gwared â rhai pethau yn y draen, ond bydd yn rhaid cytuno i hyn â’ch Swyddog Amgylchedd a fydd yn cysylltu â Dŵr Cymru.
- Wrth brynu cyfarpar neu ddylunio arbrawf, ystyriwch y dŵr a ddefnyddir a cheisiwch ddefnyddio cyn lleied â phosibl e.e. tanciau llai, systemau ailgylchdroi dŵr.
- Peidiwch â chael gwared â hylifau drwy ddraen allanol.
- Rhowch wybod am dapiau sy’n diferu/colli dŵr drwy gyflwyno cais am waith Ystadau.
- Peidiwch â gadael tapiau’n llifo er mwyn trochi eich gwydrach.
- Cysylltwch â Chynaliadwyedd os byddwch yn cael gwared â mwy nag 1m3 drwy’r draen yn ystod un diwrnod.
Cysylltwch â’ch Swyddog Amgylchedd lleol am ragor o wybodaeth.
Sylwer: Rhaid diwallu gofynion Iechyd a Diogelwch o hyd e.e. llifolchi’r system er mwyn lleihau’r risg o glefyd y lleng filwyr.