Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cael ein cydnabod am fod yn arweinydd ym maes cynaliadwyedd sefydliadol. Ar hyn o bryd, rydym yn y deg uchaf yng Nghynghrair Werdd People and Planet a gyhoeddir gan The Guardian', ac rydym yn rheoli ein heffaith ar ein hamgylchedd drwy ein System Rheoli Amgylcheddol arobryn.
Rydym wedi ennill Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon am Wastraff ac rydym yn ymrwymedig i gaffael cadarnhaol ar draws y sefydliad.