Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FRY) 2021: Rydym wrth ein bodd bod ein heffaith wedi cyflawni gradd o 100% o ran arwain y byd a rhagoriaeth ryngwladol, sy'n amlygu bod ein hadran yn ymrwymedig i ymwreiddio effaith go iawn ar y byd ym mhopeth a wnawn. Mae 90% o’n hymchwil yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol, a gwelwyd cynnydd yn nifer ein cyhoeddiadau sy'n arwain y byd.
Mae’r Adran Gyfrifiadureg yn gartref i ymchwilwyr o safon fyd-eang, cyfleusterau labordy gwych a rhaglenni addysgu adderchog.
Ethos yr Adran yw ymgymryd ag ymchwil a fydd o bwys yn y tymor hir, gan ysbrydoli myfyrwyr a'u hannog i helpu i newid y byd.
Ers dros 40 mlynedd bu ymchwilwyr yn Abertawe'n gwneud cyfraniadau diddorol a sylweddol i gyfrifiadureg ym meysydd cyfrifiadureg â ffocws ar ddata, semanteg manylebau ac ieithoedd rhaglennu, dulliau ffurfiol ar gyfer dylunio meddalwedd a chaledwedd, systemau gweithredu, graffeg gyfrifiadurol, cyfathrebu amlgyfrwng, modelu hylifau cymhleth, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron ac effaith gymdeithasol gwyddoniaeth a thechnoleg.