Mae clirio 2020 nawr ar gau, ond gallwch dal ymgeisio i astudio gyda ni. Dyma rhestr o'n cyrsiau.
Hoffech chi gadw mewn cysylltiad â Phrifysgol Abertawe? Llenwch y ffurflen isod a byddwn ni’n anfon yr wybodaeth ddiweddaraf o Brifysgol Abertawe atoch chi.

Mae ein campysau glan y môr trawiadol a chroeso cyfeillgar yn gwneud Prifysgol Abertawe yn gyrchfan berffaith i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, gan alluogi'r rhai sy'n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth a fydd yn eu gosod ar yrfaoedd llwyddiannus a chyfoethog.
Mae ein ffigurau'n siarad drostynt eu hunain:
- Rydym yn 6ed yn y DU am Foddhad Myfyrwyr*
- Rydym yn y 5 Prifysgol orau'r DU ar gyfer rhagolygon gyrfa yn ôl y Guardian University League Tables 2020.
- Cyflawnwyd y wobr uchaf (Aur) am ragoriaeth addysgu ym mhrifysgolion y DU, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu.
- Yn seiliedig ar filoedd o adolygiadau myfyrwyr cawsom ein pleidleisio fel Prifysgol y Flwyddyn yn Gwobrau Dewis WhatUni 2019.
Peidiwch â chymryd ein gair amdano, cymerwch gip ar pam mae Rinal, myfyriwr Osteopathi blwyddyn olaf, yn meddwl bod ‘Abertawe yn lle gwych i astudio’, yn ei Chanllaw i Abertawe.
*Yn seiliedig ar restr o 131 o sefydliadau sy'n ymddangos yn The Times Good University Guide.