Astudio dramor gyda Choleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Mae gan Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau bartneriaethau â sefydliadau ledled y byd, a all eich helpu i ddatblygu'ch meddylfryd byd-eang a rhoi hwb i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae astudio dramor yn gyfle gwych i brofi diwylliant arall, i wneud ffrindiau o bob cwr o'r byd ac i gael profiad gwerthfawr i'ch paratoi ar gyfer y byd ar ôl i chi gwblhau'ch astudiaethau. 

Rydym yn cynnig semester dramor i fyfyrwyr cymwys sydd wedi cofrestru ar gwrs tair blynedd, a bydd myfyrwyr cynllun gradd pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn dramor yn gallu astudio mewn prifysgol bartner yn eu trydedd flwyddyn.

Mae Rhaglenni Haf a Rhaglenni Byr hefyd ar gael i holl fyfyrwyr Yr Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae hon yn ffordd wych o ennill profiad rhyngwladol ochr yn ochr â'ch rhaglen radd.

Semester Dramor

Y myfyriwr Bed Madler yn teithio.

Bydd myfyrwyr sy'n astudio rhaglen radd tair blynedd mewn Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol; Saesneg; Llenyddiaeth Saesneg; Hanes; Hanes yr Henfyd a Chlasuron; Astudiaethau'r Cyfryngau; neu Addysg yn cael cyfle i astudio dramor am semester a phrofi bywyd fel myfyriwr rhyngwladol am chwe mis. Gallwch ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner yn Tsieina, Hong Kong, Singapôr, UDA Canada ac Ewrop.

Blwyddyn Dramor

Llun o fyfyriwr dramor.

Bydd myfyrwyr sy'n astudio rhaglen radd pedair blynedd fel arfer yn treulio'u trydedd flwyddyn dramor, naill ai'n astudio ar sail amser llawn yn un o'n prifysgolion partner, yn addysgu Saesneg fel cynorthwyydd iaith neu'n gweithio dramor ar leoliad gwaith. Bydd eich ffioedd dysgu yn ystod eich trydedd flwyddyn 15% o'ch ffioedd dysgu blynyddol arferol (myfyrwyr cartref/yr UE).

Rhaglenni Haf / Byr

Llun o fyfyriwr ar y traeth.

Mae Rhaglenni Haf a Rhaglenni Byr ar gael i holl fyfyrwyr Yr Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'n ffordd wych o ennill profiad rhyngwladol ochr yn ochr â'ch rhaglen radd. Mae ystod o gyfleoedd mewn amrywiaeth o wledydd, o wirfoddoli i raglenni astudio, o interniaethau i raglenni diwylliannol – mae rhywbeth at ddant pawb! Rhagor o wybodaeth am y Rhaglenni Haf a'r Rhaglenni Byr.

Gweithio Dramor

Myfyrwyr yn gweithio dramor yn yr Almaen.

Mae'n bosib y bydd cyfleoedd i dreulio blwyddyn yn cwblhau lleoliad gwaith rhyngwladol neu'n gweithio fel cynorthwyydd addysgu os ydych yn astudio Ieithoedd Modern neu Gyfieithu.

Pam astudio dramor?

Ein myfyrwyr yn rhannu eu profiadau a'u hawgrymiadau

Y myfyriwr Freddie Evans ar lethr sgïo.
Graffig o bolaroid.
Cysylltwch â ni i ddechrau eich taith!