Diolch yn fawr, Tîm Abertawe!
Roedd hi'n ddiwrnod anhygoel yn Hanner Marathon Prifysgol Abertawe – digwyddiad gwych, llawn egni, penderfyniad ac ysbryd cymunedol. Diolch i bob un o redwyr Tîm Abertawe a'r rhai sydd wedi cefnogi ein hymgyrch Cymryd Camau Breision Dros Iechyd Meddwl.
Mae ymgyrch eleni eisoes wedi codi dros £10,000 – ac mae'r cyfanswm yn dal i dyfu! Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau, hyd yn oed yn achub bywydau, i'n cymuned.