Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i’r holl fyfyrwyr a staff. Bydd rhywun yno i wrando os bydd ei angen arnoch, ac mae’n hollol gyfrinachol.

Nid oes rhaid bod mater neu broblem benodol. Weithiau, mae’n dda cael siarad.

Gellir cynnal y sgyrsiau hyn dros y ffôn neu drwy alwad fideo, yn bersonol, yr un sy’n fwyaf cyfforddus i chi. 

Nid yw’r gwasanaeth hwn yn wasanaeth cwnsela ond mae’n ategu’r amrywiaeth o wasanaethau lles a gynigir gan y Brifysgol.

Archebu sesiwn gwasanaeth gwrando

Cynigir apwyntiadau rhwng 9.30am a 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener a gallant bara am hyd at 50 munud. 

Archebwch sesiwn trwy ebostio'r tîm trwy'r bwtwm isod

Sesiynau Galw Heibio

Ydych chi'n chwilio am sgwrs gyflym yn lle sesiwn llawn? Rydym nawr yn cynnig sesiynau galw heibio rhybudd byr ar ddydd Llun a dydd Gwener, yn y Goleudy a’r Hafan.

Gallwch archebu lle ar y sesiynau hyn unrhyw bryd, ac maen nhw'n para naill ai 15, 30, neu 45 munud.