Dydyn ni ddim yn hoffi canu ein clodydd ein hunain, ond...
Enillodd Prifysgol Abertawe Prifysgol y Flwyddyn y DU 2019 yng ngwobrau Student Choice Awards WhatUni? 2019; a bleidleisiwyd gan fyfyrwyr.
Yn ogystal â bod yn Brifysgol y Flwyddyn, ni oedd ar frig y categori Rhyngwladol ac yn y tri uchaf am Ôl-raddedig ac am ein Cyrsiau a Darlithwyr.
Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn y dyfarniad uchaf posib am ein rhagoriaeth addysgu a chyrchfannau myfyrwyr. Mae ein Dyfarniad Aur TEF (Fframwaith Rhagoriaeth mewn Addysgu) yn cydnabod ein hansawdd addysgu, amgylchedd dysgu a chanlyniadau cyflogaeth arbennig.
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, mae nifer o gyfleoedd i'ch plentyn i gael profiad rhyngwladol. Mae modd astudio dramor am dymor neu flwyddyn fel rhan o'u cwrs neu dreulio haf ar raglen gwirfoddoli neu interniaeth dramor. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau cyfleoedd byd-eang.
Mae Prifysgol Abertawe wedi ei lleoli mewn man anhygoel ac mae hi wir yn ddinas ar lan y môr. O'r Ardal Arforol i'r Uwchdir ac i'r Mwmbwls cyfagos, mae dinas Abertawe yn llawn cymeriad a swyn. Cymerwch olwg ar ein Canllaw i fyfyrwyr i Abertawe i weld pam y bydd eich plentyn yn ymgartrefu'n braf yma.