Gwyddonwyr, Haneswyr, Beirdd, Peiriannwyr, Arloeswyr y Dyfodol...
Rydych chi wedi darllen y cyfan am yr ymchwil addysgu arobryn a safon fyd-eang sy’n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe, dyma gyfle i chi ddarganfod mwy am ddinas Abertawe yn ei holl ogoniant.
O'r Mwmbwls i'r Ardal Forol, darganfyddwch ddinas llawn swyn a chymeriad. Mae'n gyflym ac yn hawdd cyrraedd lle mae angen i chi fod yn enwedig gyda'r Unibus sy'n rhedeg 24 awr yn ystod y tymor a'n Cynllun Llogi Beiciau Santander poblogaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar restr 10 peth gorau Undeb y Myfyrwyr i'w gwneud yn Abertawe i gael y cyflwyniad orau i'r ddinas.