Eich Diwrnod Graddio
Beth sy'n digwydd ar y dydd
Amserau ar y Dydd
Amserau Graddio |
10.00am |
1.30pm |
4.30pm |
Cofrestru |
08.30-09.45 |
12.00-13.45 |
15.00-16.15 |
Drysau yn Agor |
09.30 |
13.00 |
16.00 |
Ddarpar - raddedigion a Gwesteion i eistedd erbyn |
09.45 |
13.15 |
16.15 |
Cynulliad (diwedd o gwmpas) |
11.15 |
14.45 |
17.45 |
Dychwelyd Gŵn yn cau |
19.30 |
19.30 |
19.30 |
Pryd i chi'n cyrraedd
Ar dydd eich Cynulliad Graddio cynghorir myfyrwyr sydd yn graddio i gyrraedd 1-1½ awr cyn eich cynulliad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd Arena Abertawe i gofrestru ar gyfer eich cynulliad, casglu eich tocynnau a phecyn eich gradd. O'r fan honno, dylech gasglu eich gynau mewn da bryd ar gyfer eich cynulliad (byddwch yn dychwelyd y gynau i lawr gwaelod Arena Abertawe neu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau). Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu 1-1½ awr cyn amser dechrau'ch cynulliad i wneud hyn.
Gallwch drefnu tynnu'ch lluniau naill ai cyn eich cynulliad neu ar ei ôl. Mae'r stiwdios ffotograffiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Yna gallwch fynd i awditoriwm yr Arena i eistedd ar gyfer eich cynulliad. Mae'n rhaid i chi fod yn eistedd 15 munud cyn eich cynulliad i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn y cynulliad. Bydd y drysau i Awditoriwm y Neuadd Fawr yn agor tua 30 munud cyn y cynulliad.
Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion. Mae’n rhaid i’r darpar-raddedigion eistedd yn y sedd sydd wedi’i neilltuo iddynt; bydd rhif eich sedd wedi’i nodi’n glir ar eich cerdyn cofrestru.
Bydd Gwesteion yn cael mynediad i’r awditoriwm 30 munud cyn i’r cynulliad ddechrau. Bydd pob sedd i westeion heb ei neilltuo. Ni chaniateir mynediad i’r neuadd cyn yr amser hwn.
Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn glir yn ystod yr holl ddigwyddiad a bydd tywyswyr wrth law i'ch cynorthwyo.
Yn y Cynulliad
Bydd darpar-raddedigion yn eistedd yn y sedd gyda'r un rhif sydd ar ei cerdyn cofrestru. Byddwch yn derbyn eich cerdyn cofrestru ar y dydd pan rydych yn cyrraedd a cofrestru.
Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion. Bydd cardiau cofrestru yn cynnwys rhif sedd ac enw'r darpar-raddedig a lle i ddarparu sillafiad enw ffonetig i helpu i ynganu enwau.
Bydd marsial yn dweud wrthych pryd i godi. Unwaith i chi godi byddwch yn cael eich ddangos ble i fynd i gyrraedd drws y llwyfan.
Pan fydd eich enw'n cael ei alw, byddwch yn trosglwyddo'ch cerdyn cofrestru i'r cyflwynydd cyn croesi'r llwyfan, gan dynnu eich cap i gyfarch y Canghellor neu'r Dirprwy Ganghellor ac yna’n parhau i ganol y llwyfan ac i lawr y grisiau i ddychwelyd i'ch sedd.
Ar ôl y Cynulliad
Yn dilyn pob cynulliad, gellir tynnu lluniau swyddogol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau os nad ydych wedi gwneud hynny cyn eich seremoni.
Gallwch wisgo eich gynau academaidd drwy gydol y dydd ond rhaid eu dychwelyd erbyn yr amser a nodir uchod.
Os nad ydych yn gallu mynychu eich cynulliad o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl, a fyddech gystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib.
Bydd myfyrwyr israddedig y mae eu henwau'n ymddangos yn llyfryn y cynulliad ac nid ydynt yn mynychu yn graddio yn eu habsenoldeb. Sylwer na chaiff gohiriadau eu caniatáu fel arfer, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Gwesteion
Bydd modd i chi gael mynediad i'r neuadd tua 30 munud cyn y cynulliad a RHAID eich bod yn eich seddi heb fod yn hwyrach na 15 munud cyn y cynulliad. Bydd rhywun wrth law i’ch tywys.
Mae'r cynulliad yn debygol o bara oddeutu 1 awr 15 munud ac mae'n bosib felly na fyddai'n addas i blant ifanc na babanod.
Os oes unrhyw broblemau symud neu anableddau gan eich gwesteion a wnewch chi roi gwybod i ni cyn diwrnod eich Cynulliad fel bod modd i ni gadw’r seddau priodol, Cysylltu â ni.
Yn dilyn y cynulliad, gofynnir i chi adael y neuadd er mwyn i’r staff fedru paratoi ar gyfer y gynulliad nesaf. Efallai yr hoffech fynd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i gael ffotograffau swyddogol.
Eich Llyfryn Graddio
Gweld a lawrlwytho llyfrynnau graddio o'r gorffennol a'r presennol
Lluniau Swyddogol a USB
Lluniau Swyddogol
Bydd ffotograffydd swyddogol o Ede & Ravenscroft ar gael ar gyfer yr holl gynulliadau.
Mae'r cwmni yn cynnig sawl bwndel gwahanol o lluniau, yn cynnwys lluniau o'r holl deulu a lluniau unigol o'r myfyriwr.
Ewch i Ede & Ravenscroft am fwy of wybodaeth ar y bwndeli sydd ar gael a'r prisiau.
Mae ffotograffiau yn gallu cael ei archebu o flaen llaw neu ar y dydd o'r adran gwerthu ffotograffiau, bydd arwyddion clir i'r adran yma ar y dydd.
Llun a Ffon USB o'r Cynulliad
Bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu prynu ffotograff wedi’i argraffu o’u hamser ar y llwyfan gyda’r Canghellor neu’r Is-ganghellor ar ddiwrnod eu seremoni, ynghyd â gof bach (fformat HD) o’r seremoni gyfan.
Cynnyrch | Pris |
---|---|
Ffoto wedi printio 10" x 8" (Gyda'r Canghellor/Is-Ganghellor ar y llwyfan) |
£20 |
Ffon USB (ffilm mewn diffiniad uchel o'r holl gynulliad) |
£30 |
Pecyn Graddio (Ffoto wedi printio, Ffon USB gyda 3 copïau digidol o'ch ffotograffiau a'r holl cynulliad mewn diffiniad uchel) |
£40 |
Gellir prynu'r rhain wyneb yn wyneb ar dy ddiwrnod graddio, neu drwy e-bostio gradsales@abertawe.ac.uk neu ffonio 01792 987097. Sylwch y bydd angen talu â cherdyn yn unig. Os ydych chi’n casglu’n bersonol caiff ffi o 5c ar gyfer bag ei hychwanegu a chaiff yr elw ei roi i Gymorth Canser Macmillan.
Os ydych wedi cyflwyno archeb ar gyfer llun ar y llwyfan neu USB ac ni allwch ddod i gasglu hyn eich hun, sylwer y bydd y ffioedd postio canlynol yn berthnasol (post yn y DU yn unig - caiff yr holl eitemau eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf):
Pecyn Graddio: £3.85
Llun ar y Llwyfan £3.85
USB: 85c
Hefyd rhoddir lluniau graddio ychwanegol ar albymau Flickr y Brifysgol
Diogelu Data
Dylai myfyrwyr, gwesteion a staff sy'n mynychu'r Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo fod yn ymwybodol bod y cynulliadau’n cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cyhoeddus.
Cyhoeddir enwau a dyfarniadau (gan gynnwys y rheiny sy'n derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb) yn y rhaglen.
Mae recordiadau sain a delweddau o'r cynulliad ar gael yn gyhoeddus drwy we-ddarllediad byw, y cyfryngau cymdeithasol a gwerthu disgiau DVD o'r cynulliad.
Drwy gadarnhau y byddwch yn bresennol yn y seremoni, rydych chi'n rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe argraffu'ch enw a'ch dyfarniad yng nghyhoeddiadau'r rhaglen. Mae'r rheiny sy'n dod i'r cynulliad a'u gwesteion hefyd yn rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe ddefnyddio recordiad(au) fideo, recordiad(au) sain, ffotograff(au) ac unrhyw gynnwys/gopïau/dyfyniadau a gynhyrchir i'w defnyddio mewn cynyrchiadau lle mae Prifysgol Abertawe am ddefnyddio'r deunydd(iau) at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd, hyrwyddo masnach.
Yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data (2018), caiff y deunydd ei ddefnyddio'n unig at ddibenion hyrwyddo neu er lles Prifysgol Abertawe.
Gall deunyddiau barhau i fod yn gyhoeddus am gyfnod amhendant o amser a gellir eu defnyddio at ddibenion addysgol a/neu farchnata. Efallai bydd angen eu golygu at ddibenion ansawdd neu dechnegol a chaiff eu storio'n ddiogel gan y Brifysgol neu ei hasiantiaid.
Bydd gan Brifysgol Abertawe hawlfraint ar y deunydd(iau) a gellir eu defnyddio fel y maent neu ar y cyd â deunydd(iau) eraill, fel rhan o gynhyrchiad cyfansawdd.
Nodyn i'r rhai hynny nad ydynt yn mynychu (yn derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb): Os ydych yn gwrthod i'ch data personol cael ei gyhoeddi yn y rhaglen (enw a dyfarniad), rhowch wybod i'r Swyddfa Raddio.
Darllediad Byw
Bydd ein holl seremonïau yn cael eu darlledu’n fyw ar ein gwefan yn http://www.swansea.ac.uk/graduation/ a bydd modd eu gwylio drwy’r rhyngrwyd.
Bydd y darllediad ffrydio byw’n ymddangos yn awtomatig ar ddechrau pob seremoni.
Os hoffech brynu recordiad o’r sesiwn gyfan mewn fformat USB, gweler yr wybodaeth uchod (Ffotograffau a USB Swyddogol)