Y ffordd hawsaf a chyflymaf i dalu eich blaendal yw ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd (ond nid American Express) drwy Fewnrwyd Prifysgol Abertawe. Ewch i: https://intranet.swan.ac.uk/login/
1. Rhowch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair.
- Wrth fewngofnodi am y tro cyntaf, eich enw defnyddiwr yw eich rhif myfyriwr, ac mae cyfrinair wedi'i osod i chi'n awtomatig ar sail eich rhif myfyriwr a'ch dyddiad geni. Er enghraifft, os 123456 yw'ch rhif myfyriwr a 1 Mehefin 1995 yw'ch dyddiad geni, teipiwch "123456" ar gyfer eich enw defnyddiwr a "123456/01/06/1995" fel eich cyfrinair"
- Ar ôl mewngofnodi, byddwch yn cytuno i ddatganiad diogelu data a datganiad amodau a thelerau
- Dylech wedyn newid eich cyfrinair
- Gallwch dalu gydag unrhyw gerdyn credyd oni bai am American Express.
- Sylwer y codir tâl o 1.5% i bob trafodiad ar gyfer taliadau drwy gardiau credyd.
- Sicrhewch fod y swm yn gywir cyn clicio Cwblhau Taliad.
2. O dan Proffil Myfyriwr, cliciwch ar Trafodion Ariannol
3. Ticiwch i ddewis categori ffioedd (er enghraifft, Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig os ydych wedi cael eich dewis ar gyfer gradd ôl-raddedig yn Abertawe. Byddwch yn dewis Ffioedd Dysgu Israddedig os ydych wedi cael cynnig ar raglen israddedig).
4. Rhowch y swm yr hoffech ei dalu (o leiaf £2,000) a chlicio ar Gwneud Taliad pan fyddwch yn barod i symud ymlaen. Sylwer: Ar yr adeg hon, anwybyddwch gyfanswm y swm sy'n ddyledus - bydd hyn yn cael ei ddiweddaru ar ôl i chi gyrraedd Abertawe.
5. Rhowch gyfeiriad bilio eich cerdyn a manylion am eich cerdyn.
6. Byddwch yn gweld neges yn cadarnhau'r taliad. Cofnodwch rif y dderbynneb er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol.
Fel arall, gallwch dalu trwy drosglwyddiad telegraffig i gyfrif banc Prifysgol Abertawe. Sylwer bod y taliadau hyn yn gallu cymryd rhwng 10 a 15 diwrnod i glirio, felly bydd eich datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio yn cymryd mwy o amser i'w baratoi. Dyma'r manylion y bydd eu hangen arnoch:
Lloyds Bank PLC, Stryd Rhydychen, Abertawe, SA1 3AP
Côd Didoli: 30 95 46 Rhif y cyfrif: 02783215
Côd Swift: LOYDGB21101 IBAN NO: GB64LOYD30954602783215
Rhaid i chi ddyfynnu'ch rhif myfyriwr wrth wneud taliad (sef y rhif ar ben eich llythyr cynnig), neu efallai na fyddwn yn gallu cysylltu'ch blaendal â'ch cais.
Os yw llywodraeth neu gwmni'n talu eich ffioedd, dylech ofyn iddynt am lythyr yn cadarnhau hyn (gweler yr adran o'r enw 'Pryd byddaf yn derbyn fy rhif/datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio?') Fel arfer, ni fyddai angen i chi dalu blaendal os ydych yn derbyn cymorth ariannol gan noddwr swyddogol neu drwy Fenthyciad Ffederal UDA. Yn anffodus, nid ydym yn derbyn rhieni nac aelodau teulu'n noddwyr, ac nid ydynt yn dderbyniol at ddibenion fisa.