Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno'ch cais i'n cyrsiau cyn gynted ag y gallwch chi, cyn ein dyddiadau cau ymgeisio. Os caiff yr holl leoedd sydd ar gael eu llenwi, mae cyrsiau'n cau'n llawer cynt na'r dyddiadau cau ymgeisio a restrir isod.

Mae gan ein cyrsiau ddyddiadau cau ymgeisio i roi amser rhwng derbyn cynnig a chofrestru i chi wneud y trefniadau angenrheidiol i gychwyn eich cwrs ar amser, neu mewn rhai achosion i ganiatáu amser ar gyfer y broses ddethol lle mae hyn yn cynnwys asesiad pellach yn ôl yr angen e.e., cyfweliadau.

Dyddiadau Cau mynediad yn Ionawr 2023

Mae ein dyddiadau cau safonol ar gyfer ceisiadau fel a ganlyn:

Blwyddyn Academaidd 2023/2024 CartrefRhyngwladol
Mynediad Medi 2023 09 Hydref 2023 31 Awst 2023
Mynediad Ionawr 2024 Amherthnasol 31 Hydref 2023

Mae gan rai cyrsiau eu dyddiadau cau penodol eu hunain (gweler yr eithriadau isod).

Dyddiadau Cau Mynediad Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir

Mae ein dyddiadau cau safonol ar gyfer ceisiadau fel a ganlyn:

Blwyddyn Academaidd 2023/2024CartrefRhyngwladol
Mynediad ym Medi 2023 22 Medi 2023 31 Gorffennaf 2023
Mynediad yn Ionawr 2024 15 Rhagfyr 2023 31 Hydref 2023

Mae gan rai cyrsiau eu dyddiadau cau penodol eu hunain (gwiriwch yr eithriadau isod).

Dyddiadau Cau Ymchwil Ôlraddedig

Mae ein dyddiadau cau safonol ar gyfer ceisiadau fel a ganlyn:

Blwyddyn Academaidd 2022/2023CartrefRhyngwladol
Mynediad yn Ebrill 2023 15 Chwefror 2023 15 Ionawr 2023
Mynediad yng Nghorffennaf 2023 15 Mai 2023 15 Ebrill 2023
Blwyddyn Academaidd 2023/2024CartrefRhyngwladol
Mynediad yn Hydref 2023 15 Awst 2023 15 Gorffennaf 2023
Mynediad yn Ionawr 2024 15 Tachwedd 2023 15 Hydref 2023
Mynediad yn Ebrill 2024 15 Chwefror 2024 15 Ionawr 2024
Mynediad yng Ngorffennaf 2024 15 Mai 2024 15 Ebrill 2024

Y Coleg, Prifysgol Abertawe - Os ydych yn gwneud cais i lwybr israddedig neu ôl-raddedig a ddarperir gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe, byddwch yn ymwybodol bod dyddiadau cau ymgeisio yn amrywio a gellir eu gweld ar dudalen we Dyddiadau Pwysig y Coleg, Prifysgol Abertawe.