Beth yw Undeb y Myfyrwyr?
Yn y bôn, sefydliad a arweinir gan fyfyrwyr yn y brifysgol yw undeb – rydym yma i'ch cynrychioli chi a gofalu amdanoch. Mae gennym swyddogion yn Faraday ar Gampws Parc Singleton ac yn adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Gampws y Bae. Ni sydd hefyd yn gyfrifol am JCs, Rebound a Thafarn Tawe – barrau'r myfyrwyr, Costcutter a Root – ein siop bwyd iach, Fulton Outfitter – siop ddillad y Brifysgol, meithrinfa'r campws a'r Ganolfan Cyngor a Chymorth.
Rydym yn rhywle i gwrdd â phobl, mynd am ddiod, cael parti, ymlacio gyda choffi, cael cyngor, ymuno â chlybiau a chymdeithasau, gwirfoddoli, prynu eich dillad â brand Abertawe arnynt a llawer mwy. Mae gennym dîm cyfeillgar o staff sydd yma i'ch helpu chi a gwneud i chi ymgartrefu yn ogystal â'ch swyddogion etholedig.
Mae pob un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn aelodau awtomatig o Undeb y Myfyrwyr ac yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a gynigwn.