Ym Mhrifysgol Abertawe, ein cymuned yw ein cryfder, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn amrywiaeth anhygoel ein cymuned. Ond rydyn ni eisiau gwneud mwy na defnyddio geiriau teg er mwyn creu ethos o amrywiaeth a chynwysoldeb. Mae cynrychiolaeth a gwelededd mor bwysig o ran helpu i roi sicrwydd i genedlaethau'r dyfodol eu bod nhw’n perthyn, eu bod nhw’n haeddu bod yn falch o bwy ydyn nhw, ac y bydd Abertawe bob amser yn ofod diogel i fynegi'ch hunan.
Gan gofio hynny, ar gyfer mis Balchder LHDTQ+ eleni, rydyn ni eisiau tynnu sylw at eich straeon chi yn eich lleisiau chi. Fe hoffen ni ddathlu straeon am fod yn unigolyn, bod yn gynhwysol, dod o hyd i'ch cymuned, a bod yn falch o bwy ydych chi.