Mae Canolfan Iechyd y Brifysgol yn Ganolfan Meddygaeth Gyffredinol GIG sydd wedi’i lleoli ar gampws y Brifysgol ac sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyfeillgar a chynhwysfawr gyda chanolbwynt ar anghenion myfyrwyr.

Lleoliad: Llawr gwaelod, Penmaen
Ffôn: +44 (0) 1792 295321

Mae gwasanaethau'n cynnwys cyngor ar atal cenhedlu, beichiogrwydd, iechyd rhywiol, HIV / AIDS, meddygaeth chwaraeon a chlinig teithio, yn ogystal ag iechyd emosiynol.

Am ragor o fanylion ynghylch sut i gofrestru â'r ganolfan ewch i’n gwefan.

Mae'r feddygfa ar agor drwy gydol y flwyddyn o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc) 
8.30am - 12.30pm a 1.30pm - 6pm (Yn cau am 5.30pm yn ystod y gwyliau, ond fe fydd y meddyg teulu ar alw tan 6.30pm)

Sesiynau Mynediad Agored: nid oes angen gwneud apwyntiad, Llun - Gwener 9am - 11.00am


Sesiynau Prynhawn: apwyntiadau wedi'u bwcio'n unig gyda Meddygon Teulu, Nyrsys neu glinigau arbennig (e.e. Teithio, profion ceg y groth ayyb.) 1.30pm - 5.30pm

Salwch a chyngor meddygol

8am - 6.30pm, Llun - Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc): ffoniwch y feddygfa ar y rhif uchod

6.30pm - 8am, Penwythnosau a Gwyliau Banc: 0330 123 9180

Ar gyfer gwasanaeth y Tu Allan i Oriau pan mae'r feddygfa ar gau, bydd rhif am ddim i gleifion eiddefnyddio i gael mynediad at gyngor meddygol neu fynediad at wasanaethau meddygol pan mae meddygfeydd meddygon teulu ar gau - y rhif yw 111

Mae'n bwysig cofrestru â meddyg cyn gynted ag yr ydych yn cyrraedd yn Abertawe er mwyn cael mynediad at ofal GIG. Mae angen i'r holl fyfyrwyr sy'n byw ym Mhreswylfeydd y Brifysgol (ar y campws, Tŷ Beck a Phentref Hendrefoelan) gofrestru â Meddyg Teulu lleol o fewn pythefnos ar ôl cyrraedd. Gallwch gofrestru â meddyg oddi ar y campws os yw hynny'n well gennych.

SYLWER BOD COFRESTRU AR GYFER Y GANOLFAN IECHYD YN BROSES AR WAHÂN I GOFRESTRU AR GYFER Y DEINTYDDFA.