Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD), sy'n cael ei nodi ar yr 8fed o Fawrth, yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Yn ymroddedig i gyflymu cydraddoldeb menywod, mae IWD hefyd yn nodi galwad fyd-eang i weithredu i lobïo cydraddoldeb rhywiol.
Thema IWD ar gyfer 2023 yw #EmbraceEquity. Mae'r ymgyrch yn ceisio meithrin dealltwriaeth fyd-eang ynghylch pam nad yw cyfle cyfartal yn ddigon. Mae thema eleni’n dod â ffocws ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn erbyn cydraddoldeb a bod gwir gynhwysiant a pherthyn yn gofyn am weithredu teg.
Mae'r fideo yma wedi cael ei greu gan ymgyrch ryngwladol i ddangos pwysigrwydd nodi'r diwrnod penodol hwn.
Beth allaf i wneud?
- Dathlu cyflawniadau merched
- Addysgu a chodi ymwybyddiaeth am gydraddoldeb menywod
- Galw am newid cadarnhaol i hyrwyddo menywod
- Lobio am gydraddoldeb rhywiol cyflymach
- Codi arian ar gyfer elusennau sy'n canolbwyntio ar fenywod
Angen mwy o syniadau? Ewch i dudalen we swyddogol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod isod
IWD Gwefan Swyddogol
Beth sydd ymlaen?
Mae Prifysgol Abertawe yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau, o sgyrsiau ysbrydoledig a phaneli trafod i werthu cacennau elusennol! Edrychwch ar holl ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar draws y campysau isod.
Digwyddiadau IWD Prif Abertawe