Cymorth Ym Mhrifyshol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal neu sydd wedi’u dieithrio o’u teuluoedd.
Cyfranogiad@BywydCampws yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar bopeth o wneud cais i'r brifysgol, lety, cymorth academaidd a mwy, felly gallwch chi wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe a'r tu hwnt iddi.
Mae’r wybodaeth isod yn amlinellu’r pecyn cymorth ar gyfer Ymadawyr Gofal a myfyrwyr sydd wedi’u dieithrio cymwys. Os ydych chi’n meddu ar brofiad o ofal, wedi bod o dan ofal gwarcheidwad, os yw’ch rhieni wedi marw neu os ydych chi’n breswylydd Foyer, cysylltwch â ni i drafod eich amgylchiadau ac i weld pa gymorth sydd ar gael i chi.