Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Ysgoloriaethau gwerth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd) os ydych yn dymuno astudio o leiaf 66% neu fwy o'ch gradd (neu 80 credyd y flwyddyn) drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae dyddiad cau mynediad 2022 wedi mynd heibio. Bydd manylion gwneud cais ar gyfer mynediad yn 2022 yn ymddangos yma'n fuan.
Am fanylion pellach, ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cofiwch bod angen Ymaelodi â'r Coleg fel darpar fyfyriwr er mwyn medru ymgeisio!
Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Ysgoloriaeth Cymhelliant gwerth £500 i myfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf 33% (o leiaf 40 credyd) o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cychwyn eu blwyddyn cyntaf yn y flwyddyn academaidd 2022-23 mewn UNRHYW BWNC.
Bydd ffenestr ymgeisio ar gyfer mynediad i Brifysgol yn 2022 yn agor ar 1 Mawrth - 30 Mehefin 2022.
colegcymraeg.ac.uk/ysgoloriaethau
Gallwch wirio os yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth uchod gan ddefnyddio'r Chwilotydd cyrsiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd dolen i'r ffurflen gais arlein yn ymddangos yma ar 1af Fawrth 2022.
Ysgoloriaeth Meddygaeth y Coleg Cymraeg
Mae'r Coleg Cymraeg yn cynnig Ysgoloriaethau Meddygaeth gwerth £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) ar gyfer myfyrwyr sy’n bwriadu gwneud cais i astudio Meddygaeth mewn prifysgol yng Nghymru ac sydd am astudio o leiaf 33% (o leiaf 40 credyd y flwyddyn) o’u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer 2021 wedi pasio. Bydd manylion ymgeisio ar gyfer Ysgoloriaeth Meddygaeth 2022 yn ymddangos ar wefan y Coleg Cymraeg.
Cofiwch Ymaelodi â'r Coleg fel darpar fyfyriwr er mwyn medru ymgeisio! Am fanylion pellach ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.